11. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Digwyddiadau a sioeau'r haf

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 6:00, 13 Gorffennaf 2022

Dwi'n falch o allu ategu nifer o'r pwyntiau a godwyd gan Samuel Kurtz. Yn sicr, mae digwyddiadau'r haf yn rhan bwysig o'n calendr fel cenedl, o'r sioeau bach amaethyddol i'r Sioe Frenhinol a'r holl wyliau cerddorol a diwylliannol megis yr Eisteddfod Ryngwladol sydd newydd fod, wrth gwrs, yn Llangollen, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi eu colli nhw'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf yma a gweld eu colled nhw. Wrth gwrs, mi oedd yna bethau wedi mynd yn rhithiol, pethau fel Eisteddfod AmGen, oedd yn rhoi blas o'r eisteddfod, ond does yna ddim byd fel bod ar y Maes yn cwyno am y tywydd, beth bynnag fo hwnnw, ei bod hi'n rhy boeth neu fod yna ormod o law, a gweld hen gyfeillion a chreu ffrindiau newydd. Mae pethau dŷn ni wedi'u colli. Yn bersonol, Sioe Môn ydy'r sioe dwi wedi mwynhau mynd iddi ers yn blentyn, ac efo fy ffrind-oes Ann yn mynd ar y waltzers yn flynyddol, ac yn dal i wneud—ddim yn rhy hen i hynny—felly dwi'n edrych ymlaen i'r cyfle. Dwi'n rhannu gormod heddiw o bosib. [Chwerthin.]

Ond mae hi wedi bod yn dair blynedd hir, a dwi'n meddwl mai un o'r pethau oedd ar goll yn y cynnig—a dwi'n falch o weld bod Sam yn pwysleisio—ydy, wrth gwrs, y manteision economaidd mawr mae'r rhain yn eu rhoddi. Mae'r effaith economaidd, ac mae'r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn teithio ledled Cymru—rhywbeth sydd wedi bod yn ddadleuol ar draws y blynyddoedd—yn dangos y gwaddol lleol wedyn, yn economaidd ond hefyd o ran yr iaith. Dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni'n cofio'r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni, er enghraifft, lle daeth yna gymaint o ddysgwyr ac ati—dwi'n gwybod roedd Peter Fox yn rhan fawr o hynny—a gweld y gwaddol yn Y Fenni a pha mor bwysig ydy ei bod hi yn teithio a bod hi'n eisteddfod wirioneddol genedlaethol i bawb yng Nghymru, a byddaf i'n falch iawn o weld yr Eisteddfod yn dychwelyd i Dregaron.

Un o'r pethau dwi'n meddwl dŷn ni'n anghofio'n aml, yn enwedig efo'r Eisteddfod Genedlaethol, ydy'r ffaith ei bod hi'n cael ei gweld fel gŵyl o ran y Gymraeg a'r Cymry Cymraeg, ond mae hi'n eisteddfod ac yn wŷl ryngwladol o bwys, a dwi'n meddwl weithiau nad ydym ni'n manteisio ddigon ar hynny, oherwydd pan fyddwn ni'n gweld pobl o dramor yn dod i'r Eisteddfod Genedlaethol, maen nhw'n gwirioni yn llwyr; maen nhw wrth eu bodd. Dwi'n cofio pan oedd Eluned Morgan yn Weinidog efo cyfrifoldeb rhyngwladol a dros yr iaith Gymraeg, pan oedd hi yn yr Eisteddfod ac yn gweld nifer o bobl ryngwladol yn dod i'r Eisteddfod ac wrth eu bodd yn gallu mwynhau hefyd oherwydd yr offer cyfieithu ac ati. A dwi'n meddwl weithiau ein bod ni'n colli cyfle i hyrwyddo'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhyngwladol fel rhywbeth y gall pawb ei fwynhau, a'i bod hi'n dal yn gaeedig i ormod o bobl yng Nghymru. Dwi wedi croesawu, yn y blynyddoedd diwethaf, pan fo Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu dyddiau am ddim i'r Eisteddfod Genedlaethol. Dwi'n meddwl, efo'r argyfwng costau byw hefyd, mai un o'r pethau sy'n fy mhryderu i ydy costau mynychu rhai o'r digwyddiadau pwysig yma, a byddwn i'n hoffi ein bod ni'n gallu edrych, i'r dyfodol, sut ydym ni'n gwneud gwyliau megis y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol yn fforddiadwy i bawb, yn enwedig y cymunedau hynny fydd yn cael eu trochi gan yr holl ddigwyddiadau yma ond efallai'n methu â mynychu oherwydd y costau hynny.

Felly, yn amlwg, dwi eisiau ategu'r diolch o galon i bawb sydd yn gweithio mor galed i sicrhau hyn, ond dwi'n meddwl bod yna waith inni ei wneud o ran edrych i'w gwneud nhw'n fforddiadwy i fwy o bobl eu mwynhau nhw, a hefyd i hyrwyddo'r rhain yn rhyngwladol.