Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Rhaid imi gytuno â phopeth a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, yn gynharach, ac rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at fynd i Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf. Ac mae'r holl sôn am sioeau yn gwneud i mi ddyheu am y rhôl borc, crofen a saws afal rwy'n ei chael bob blwyddyn, yn ddi-ffael, ym mhob sioe rwy'n ei mynychu. A boed yn arddangos neu'n cynnig y cynnyrch lleol rhagorol sydd gennym yn fy sir i, sef sir Fynwy, ar draws fy rhanbarth, Dwyrain De Cymru, neu Gymru, neu'n arddangos ein da byw, yn cystadlu am y jamiau neu'r gacen gartref orau, neu'n edrych ar gystadlaethau ysgrifennu disgyblion o ysgolion lleol, gan ymweld â'r nifer fawr o stondinau, pebyll thema, garddwriaeth, neu, fel rwy'n treulio'r rhan fwyaf o fy amser yn ei wneud erbyn hyn, edrych ar dractorau, tractorau a mwy o dractorau, mae rhywbeth i bawb yn ein sioeau, yn yr amrywiaeth wych o sioeau sydd gennym ar draws fy rhanbarth a Chymru drwy gydol yr haf. Rydym mor lwcus i'w cael. Yn ogystal â denu llawer o ymwelwyr i Gymru—ni allwn anghofio'r budd economaidd enfawr y maent yn ei gynnig i'n hardaloedd, fel y mae rhai eisoes wedi'i nodi—mae'r sioeau hyn hefyd yn dod â chymunedau lleol at ei gilydd, ac yn eich galluogi i gyfarfod neu weld ffrindiau a theulu nad ydych wedi'u gweld ers oesoedd neu ers y sioe flaenorol y flwyddyn cynt.
Yr hyn sy'n fy nharo i yw'r gwaith enfawr sydd ynghlwm wrth gynnal sioe. Mae fy nhad bob amser wedi bod yn is-lywydd neu'n stiward yn fy sioe leol ym Mrynbuga, felly rwyf bob amser wedi bod yn weddol ymwybodol o hyn. Pan ymgymerodd fy nghyfaill, Nia Thomas, â'r rôl o drefnu ein sioe leol, cefais fy syfrdanu gan faint o waith a gâi ei wneud drwy gydol y flwyddyn i gynnal y sioeau hyn. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddi hi, tîm sioe Brynbuga a chydnabod yr holl wirfoddolwyr y tu ôl i'r llenni sy'n gwneud ein sioeau'n bosibl.
Mae ein sioeau hefyd yn addysgwyr da, gan fod ysgolion lleol bron bob amser yn cymryd rhan fawr, oherwydd mae sioeau amaethyddol yn rhoi cipolwg go iawn ar y ffordd wledig o fyw i'r rhai sydd efallai'n dod i sioeau am y tro cyntaf o ardaloedd trefol. Mae'n arbennig o bwysig i'n plant gael profiad uniongyrchol o weld anifeiliaid yn agos, deall y gadwyn fwyd, sut y mae pethau'n gweithio a sut y mae pethau'n cyrraedd eu platiau. Ffermwyr yw gwir geidwaid ein ffordd wledig o fyw a'n hamgylchedd, ac mae ein sioeau'n gyfle gwirioneddol i'w cefnogi. Rwy'n annog pawb i wneud hynny eleni.
Mae ein sioeau haf ac amaethyddol yn ymgorffori'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig mewn gwirionedd, ac fel y dywedodd Heledd, mae angen inni hyrwyddo hynny ymhellach ar lwyfan y byd. Yn anffodus, fodd bynnag, ni fydd pob un o'n sioeau yn dychwelyd eleni, gyda sioe sir Fynwy, sy'n 150 oed, yn cael ei chanslo oherwydd cyfyngiadau ariannol a achoswyd gan y pandemig. I mi, mae hyn yn crynhoi pa mor fregus yw ein sioeau mewn gwirionedd, a chymaint y maent angen ein cefnogaeth, ein hanogaeth, ein hyrwyddiad a'n cefnogaeth ariannol lle bo hynny'n bosibl yn ystod yr hafau nesaf. Felly, rwy'n ddiolchgar i'n grŵp am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ymuno â Sam Kurtz i annog pobl Cymru i gefnogi eu sioeau lleol.