Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Felly, mae'r ffaith bod Sioe Frenhinol Cymru yn dychwelyd, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n falch fod y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, wedi cymeradwyo cyllid gwerth £110,000 yn ddiweddar i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23. Mae'r gymdeithas wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad amaethyddiaeth a'r economi wledig yng Nghymru ers ymhell dros ganrif. Mae ei gwaith yn cynnwys rhoi cymorth i fusnesau, lles cymdeithasol ac addysg mewn cymunedau gwledig yn ogystal â chyflawni ei hamcanion elusennol. Mae'r gymdeithas yn amcangyfrif ei bod yn cyfrannu dros £40 miliwn y flwyddyn at economi Cymru. Denodd y tri phrif ddigwyddiad yn 2019—Sioe Frenhinol Cymru, yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad a'r ffair aeaf—tua 300,000 o bobl, gan gynnwys dros 1,000 o ymwelwyr tramor o 22 o wledydd ledled y byd. Sioe Frenhinol Cymru yw'r digwyddiad mwyaf o'i fath yn y DU a thu hwnt, ac fe'i gwelir fel pinacl arddangos amaethyddiaeth Cymru, ac mae hefyd yn hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg.
A phan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn agor ei giatiau yn Nhregaron ar ddiwedd y mis bydd yn cynnig 15,000 o docynnau am ddim i deuluoedd lleol nad ydynt fel arfer yn mynychu'r Eisteddfod. Bydd yn gwneud hyn drwy weithio'n agos gyda phartneriaid, fel y cyngor sir ac elusennau fel y Groes Goch a noddwyr fel cymdeithas dai Barcud. Gwneir hyn yn bosibl gyda £100,000 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy'r grant Haf o Hwyl. Yn fwyaf arbennig, bydd teuluoedd yn cael eu hannog i ymweld â'r Pentref Plant, lle bydd yr holl weithgareddau'n groesawgar a chynhwysol, gan annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt a dangos bod y Gymraeg yn iaith chwarae, hwyl a chymdeithasu, yn ogystal ag iaith ysgol ac addysg. Er ei bod yn bartner allweddol yn y gwaith o gyflawni nodau ein strategaeth iaith Gymraeg, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg', mae'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn dod â budd economaidd sylweddol i'r ardaloedd y mae'n ymweld â hwy bob blwyddyn. Unwaith eto, i gefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol drwy'r pandemig, dyrannodd Llywodraeth Cymru £800,000 yn ychwanegol yn 2021 i'r Eisteddfod, ac mae eu cyllid grant craidd blynyddol wedi'i gynyddu £300,000 yn 2022 i gefnogi dyfodol yr ŵyl mewn cyfnod sy'n dal i fod yn ansicr. Felly, fel y soniodd Heledd Fychan, fe wnaethom fwynhau'r Eisteddfod Amgen ar wahanol lwyfannau digidol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd yn hyfryd i bobl ddychwelyd i'r maes eleni i gymdeithasu, i wrando ar berfformiadau byw ac i fwynhau ein diwylliant unigryw ar ei orau.
Roedd hefyd yn wych croesawu Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych ym mis Mai eleni, ac i bobl allu dathlu 100fed blwyddyn yr ŵyl yn y cnawd. I gydnabod yr achlysur pwysig hwn, dyrannodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol o £527,000 i gefnogi mynediad am ddim, gan ganiatáu i bawb fwynhau'r ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop. Mae adroddiadau cynnar gan yr Urdd yn awgrymu bod hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda llawer o deuluoedd yn ymweld â'r ŵyl am y tro cyntaf. Ac rwy'n sicr yn gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gallwn weld mwy ohono wrth inni geisio ehangu mynediad at brofiadau o'r fath. Ac rwy'n falch iawn, yn ogystal â'u cyllid grant craidd blynyddol o £852,184, y bydd yr Urdd yn derbyn £1.2 miliwn yn ychwanegol eleni, a fydd yn rhoi cymorth i alluogi'r Urdd i ailadeiladu ei gwasanaethau yn dilyn COVID-19. Bydd yr arian ychwanegol yn cyflogi rhwydwaith o swyddogion datblygu i gefnogi plant a phobl ifanc mewn cymunedau ledled Cymru, yn ogystal â darparu rhaglen brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi llawer o wyliau lleol eraill a ddarperir drwy fentrau iaith, sydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd a defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau lleol.
A'r wythnos diwethaf roeddwn wrth fy modd yn gweld Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dychwelyd ar gyfer ei phen-blwydd yn 75 oed, ac roeddwn yn ddigon ffodus i allu ei mynychu. Digwyddiadau fel hyn, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol yw uchafbwynt tymor yr haf i lawer o bobl ledled Cymru a thu hwnt. Maent yn cyfoethogi ein bywydau ac yn creu ymdeimlad o gymuned a balchder.
Ers lansio'r strategaeth ddigwyddiadau flaenorol yn 2010, rydym wedi gwneud cynnydd cryf yn gweithio ar draws y sector ac ar draws Cymru i ddatblygu portffolio trawiadol o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon, ac yn fwy diweddar rydym wedi ymuno â'r farchnad digwyddiadau busnes am y tro cyntaf. Rydym wedi gweithio gyda pherchnogion lleol a rhyngwladol, wedi defnyddio ein lleoliadau o'r radd flaenaf yn ogystal â'n tirweddau naturiol, ac wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, cymunedau ac asiantaethau digwyddiadau ledled Cymru i ddatblygu a thyfu digwyddiadau cynaliadwy sy'n sicrhau manteision economaidd, yn arddangos ein cenedl, yn codi ein proffil, ac yn ein helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.