Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Iawn. Roeddwn am ddweud y bydd y strategaeth newydd yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn a saith nod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r strategaeth yn nodi uchelgeisiau clir i sicrhau dull Cymru gyfan o gefnogi digwyddiadau sy'n wirioneddol Gymreig, ac fe'i datblygwyd mewn ymgynghoriad â'r sector, a byddwn yn awr yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn cyflawni ein gweledigaeth a sicrhau bod Cymru'n cynnal digwyddiadau eithriadol sy'n cefnogi llesiant ei phobl, ei chymunedau a'r blaned. Diolch yn fawr.