Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac fe fyddaf yn rhoi munud o fy amser i Heledd Fychan. Fe dyfais i lan yng Ngwent, ac i Gasnewydd y byddem ni'n mynd i siopa. Roedd y murlun enwog a oedd yn adrodd hanes y Siartwyr, sydd nawr bellach, yn anffodus, wedi'i chwalu, yn destun rhyfeddod i fi. Dysgais i am eu brwydr a'u haberth drwy ddelweddau graffig a dramatig y murlun. Byddwn yn mynnu cael yr hanes gan fy rhieni bob tro y byddem yn pasio, ac fe'm sbardunodd i ddysgu mwy am hanes fy mro a'm cenedl, ac am frwydr pobl gyffredin Cymru dros gael llais yn y modd yr oedd eu bywydau a'u cymdeithas yn cael eu rheoli.
Oes, mae modd ysbrydoli plant a phobl ifanc a thanio'u hangerdd a'u chwilfrydedd dros syniadau ac ymgyrchoedd, fel rhai y Siartwyr, a hynny drwy bob math o ffyrdd: gweld celf gyhoeddus neu berfformiad theatr; darllen llyfrau am ymgyrchwyr ifanc, fel Greta Thunberg neu Malala; gweld protestiadau ymgyrchwyr ifanc Cymdeithas yr Iaith ac Mae Bywydau Du o Bwys. Ond yn yr ysgol, wrth gwrs, mae modd sicrhau orau fod ein pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i wleidyddiaeth yn ei holl ffurfiau, a'r modd y mae'r syniadau yma yn dylanwadu ar gymdeithas ac yn creu newid. Bydd cynnwys hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, ac addysg wleidyddol, fel elfennau mandadol ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y cwricwlwm yn sicr yn fodd o annog hyn. Achos fe fu galwadau lu a chroch yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wrth inni benderfynu rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed, am fframwaith gwell, a darpariaeth fwy cyson a chyflawn, i sicrhau addysg wleidyddol bwrpasol a safonol i bawb.
Mae'n hanfodol ein bod yn galluogi ein pobl ifanc i ddeall y modd y mae syniadau polisi, ideoleg a systemau llywodraethu yn creu'r gymdeithas a'r byd y maent yn rhan ohonynt, a sut gallant gael llais, mynegi barn a chwarae eu rhan yn y broses ddemocrataidd, a sylweddoli a gwerthfawrogi pam fod hynny'n bwysig, iddynt ddeall bod ganddynt rym. Does dim angen imi ailadrodd y dadleuon hynny nawr am eu bod wedi'u derbyn yn rhannol, o'r diwedd. Ac rwy'n croesawu'n fawr, felly, y cyfeiriad yn yr adroddiad blynyddol ar y Cwricwlwm i Gymru, a gyhoeddwyd ddechrau'r mis, at gefnogi dysgwyr i arddel eu hawliau democrataidd, a gwneud penderfyniadau gwleidyddol, er mwyn meithrin dealltwriaeth o'r ffordd mae systemau llywodraethu yng Nghymru yn gweithio, fel elfen ganolog o'r maes dysgu a phrofiad hwn. Felly, mae newid er gwell ar droed ac rwy'n croesawu hynny.
Ond—ac mae hwn, dwi'n meddwl, yn 'ond' mawr, ac yn 'ond' sy'n werth ei godi yn y Siambr y prynhawn uma—nid yw'r hyn sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd yn ein system addysg yn ddigonol, yn gyson dros Gymru nac yn dderbyniol, felly, os ydym wir am rymuso ein pobl ifanc i fedru codi llais a chreu newid. Rhaid cofio na fydd unrhyw ddisgybl sydd ym mlwyddyn 7 neu uwch ar hyn o bryd yn cael ei addysgu o dan y cwricwlwm newydd. Rhaid inni beidio ag anghofio am y bobl ifanc hynny. A rhaid cofio y bydd etholiad San Steffan a'r Senedd yn digwydd o fewn y pum mlynedd nesaf, a bydd cannoedd o bobl ifanc yn troi'n 16 cyn hynny. Dyna pam rwyf am weld gwella addysg wleidyddol yn cael sylw'r Llywodraeth nawr. Mae yna hefyd bryderon nad yw'r cynlluniau yn y cwricwlwm newydd ar y seiliau mwyaf cadarn, ac fe soniaf am hynny yn y man.