13. Dadl Fer: Pleidleisio yn 16 oed: Rhoi'r offer i bobl ifanc ddeall y byd y maent yn byw ynddo, a sut i'w newid, drwy addysg wleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:40, 13 Gorffennaf 2022

Mae ein pobl ifanc wedi medru pleidleisio yn 16 oed nawr mewn dau etholiad—etholiad y Senedd a'r etholiadau lleol eleni. Mae hynny, wrth gwrs, yn destun llawenydd ac yn destun balchder cenedlaethol. Fe wnaeth fy merch bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau'r Senedd, a hynny, wrth gwrs, dros ei mam, a'm mab yn yr etholiadau lleol eleni, ac maen nhw'n amlwg yn dod o deulu sy'n trafod a wir yn byw gwleidyddiaeth. Ond, rwy'n gwybod nad oedden nhw na'u ffrindiau wedi trwytho yn y pwnc yn yr ysgol. Ac rydym yn gwybod nad yw nifer y pleidleiswyr sy'n cyfranogi yn ein democratiaeth yn ddigon uchel, yn enwedig, felly, o ran pobl iau.

Dangosodd data cychwynnol Llywodraeth Cymru y cofrestrodd rhwng 40 a 45 y cant o bobl ifanc 16 i 17 oed cymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd y llynedd. Yn amlwg, roedd y pandemig wedi effeithio ar rai o'r cynlluniau i godi ymwybyddiaeth, ond mae arolwg ar ôl arolwg o bobl ifanc wedi dangos eu bod nhw eisiau mwy o addysg wleidyddol ffurfiol. A'r mwyaf y mae pobl ifanc yn dysgu am wleidyddiaeth, y mwyaf y maent eisiau cyfranogi mewn gwleidyddiaeth. Mae elfen gyfyngedig o'r hyn y gellir ei alw'n addysg wleidyddol yn rhan o'r cwricwlwm presennol, fel rhan o fagloriaeth Cymru ac addysg bersonol a chymdeithasol.

Wrth ymateb i ddeiseb a gyflwynwyd i Bwyllgor Deisebau'r pumed Senedd yn galw am addysg wleidyddol statudol, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams, 'Anogir ysgolion eisoes i ddarparu addysg eang, gan gynnwys ymwybyddiaeth wleidyddol, ac mae cyfleoedd i ddysgwyr archwilio gwleidyddiaeth yn y cwricwlwm cyfredol drwy'r fagloriaeth Gymreig ac addysg bersonol a chymdeithasol'. Ond sylwer ar y defnydd o'r gair 'cyfleoedd'. Nid yw'n rhoi llawer o hyder i rywun fod y sefyllfa bresennol yn sicrhau darpariaeth addysg wleidyddol o safon ym mhob ysgol.

Mae peth o'r addysg wleidyddol sy'n cael ei derbyn ar hyn o bryd gan ein pobl ifanc felly'n deillio o elfennau o fewn addysg bersonol a chymdeithasol, sy'n ofynnol yn statudol o dan y cwricwlwm sylfaenol, ond, yn wahanol i bynciau eraill y cwricwlwm cenedlaethol, mae'r modd y mae'n cael ei dysgu yn ddibynnol ar fframwaith—fframwaith y mae disgwyl i ysgolion ei ddefnyddio, ond nid oes angen iddynt ei ddilyn. Mae'r fframwaith yn dweud y dylai dysgwyr gael y cyfle i ddysgu am ddinasyddiaeth weithgar, ond nid bod yn rhaid iddynt gael y cyfle.

Mae sawl adroddiad yn adleisio canfyddiad ymchwiliad ein Senedd Ieuenctid flaenorol mai dim ond 10 y cant o'r bobl ifanc a holwyd ganddyn nhw a oedd wedi derbyn addysg wleidyddol. Dywedodd eu hadroddiad eu bod yn siomedig iawn i ganfod mai ychydig iawn o bobl ifanc yng Nghymru oedd yn dysgu am wleidyddiaeth drwy addysg wleidyddol—rhywbeth sy'n frawychus, meddant, o ystyried y newid yn yr oedran pleidleisio. Roedden nhw'n teimlo bod hyn yn adlewyrchu diffyg hyder cyffredinol athrawon ac ysgolion wrth addysgu'r pwnc. Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru wedi adleisio'r pwynt yma ynglŷn â natur dameidiog y ddarpariaeth a'r angen i gefnogi athrawon yn well, yn enwedig o gofio'r newid sydd ar y gweill yn hyn o beth, gyda datblygiad y cwricwlwm newydd.

Mae undebau addysg wedi datgelu bod eu haelodau'n bryderus am ddarparu addysg wleidyddol. Beth mwy, felly, y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi addysgwyr i gyflwyno addysg wleidyddol goeth a chrwn—ymwybyddiaeth sy'n mynd y tu hwnt i ddealltwriaeth o fecanwaith a ffeithiau moel llywodraethiant Cymru? Sut ydym ni, er enghraifft, yn sicrhau bod gan ein pobl ifanc ddealltwriaeth o hanes a phwysigrwydd undebau llafur, neu eu hawliau iaith? Mae angen dysgu ynghylch y systemau ac ideolegau hynny sy'n rhoi cyd-destun ac ystyr i'r ymgiprys pleidiol a phrosesau etholiadol yn y lle cyntaf. Ac yn ôl yr NEU Cymru, mae dysgu proffesiynol yn amrywio dros Gymru, ac mae angen cefnogaeth ychwanegol ar gyfer y pwnc pwysig hwn nawr ac wrth baratoi at ofynion y cwricwlwm newydd. Mae'n wir bod adnoddau dysgu digidol newydd wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar, ond mae'r diffyg hyder ac, wrth gwrs, y diffyg profiad ymhlith athrawon—y mwyafrif helaeth heb dderbyn unrhyw addysg wleidyddol eu hunain—angen sylw cyflym er mwyn codi'r hyder a'r gallu ymhlith ein haddysgwyr i sicrhau safon uchel o ddarpariaeth.

O ran bagloriaeth Cymru, mae'r elfen dinasyddiaeth fyd-eang o fewn y dystysgrif her sgiliau yn medru caniatáu rhywfaint o addysg wleidyddol, ond nid yw hyn bob amser yn dilyn. Ar lefel genedlaethol sylfaenol, nod yr her dinasyddiaeth fyd-eang yw rhoi'r cyfle i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o fater byd-eang a ddewiswyd o un o'r pynciau canlynol: amrywiaeth ddiwylliannol, masnach deg, ynni'r dyfodol, anghydraddoldeb, byw'n gynaliadwy, trychinebau naturiol a dynol, maeth, tlodi. Ar lefel uwch, nod yr her dinasyddiaeth fyd-eang yw rhoi'r cyfle i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion byd-eang cymhleth ac amlochrog o fewn chwe thema: iechyd, bwyd a lloches, poblogaeth, trafnidiaeth, yr economi, a'r amgylchedd naturiol. Felly, er bod yn rhaid i bob dysgwr sy'n astudio bagloriaeth Cymru wneud yr her dinasyddiaeth fyd-eang, ni fydd hyn o reidrwydd yn cynnwys unrhyw beth am wleidyddiaeth Cymru nac addysg am systemau etholiadol neu lywodraethiant Cymru. A dyw bagloriaeth Cymru ddim yn orfodol chwaith, er bod Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion a cholegau i'w chynnig i bob dysgwr.

Yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol, mae dinasyddiaeth yn brif elfen o'r cwricwlwm ôl-gynradd statudol, a'r Alban wedi cyflwyno hynny ymhell cyn rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed. Ni allwn felly ddibynnu ar yr hyn sydd mewn lle ar hyn o bryd. Mae prosiectau codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu gwych iawn ar waith mewn nifer o'n lleoliadau addysg. Fe fues i'n cymryd rhan mewn sesiwn yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ddiweddar gyda'r Politics Project, ond mae prosiectau fel hyn, er yn effeithiol wrth ymgrymuso rhai grwpiau o bobl ifanc, yn dipyn o loteri cod post yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Nododd adroddiad 'Making Votes-at-16 Work in Wales' gan Brifysgol Nottingham Trent na gyflwynwyd cynllun gan Lywodraeth Cymru i gryfhau addysg wleidyddol pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth i ostwng yr oed pleidleisio.