1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2022.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo masnach a buddsoddiad yng Nghymru yn fyd-eang yn dilyn tîm pêl-droed dynion Cymru'n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022? OQ58345
Diolch. Rydym yn gweithio’n frwd gyda nifer o bartneriaid yn y DU, Qatar a mannau eraill yn y byd i sicrhau'r cyfleoedd masnachu a buddsoddi gorau posibl i Gymru yn sgil cwpan byd dynion FIFA 2022.
Yng ngrŵp trawsbleidiol rhyngwladol Cymru yr wythnos diwethaf, mynegwyd pryderon fod cynnydd wedi bod yn araf o ran cynnull y tîm Cymru mawr ei angen i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl yn sgil y ffaith y bydd Cymru'n chwarae yng nghwpan y byd. Dywedodd llawer o’r rhai a oedd yn bresennol ei bod yn aneglur pwy sy’n arwain a sut y bydd sefydliadau a busnesau’n cael eu cynnwys a’u cefnogi i gymryd rhan, nad oes unrhyw amcanion allweddol ac uchelgeisiol wedi’u pennu eto, ac nad yw’n glir pa fuddsoddiad sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw cyfleoedd yn cael eu colli. Mae'n ofidus fod cyfeiriadau wedi'u gwneud at ymgyrch GREAT a sut y byddai Cymru’n gallu elwa o hyn, a fyddai’n mynd yn groes i bopeth y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi’i wneud i ddatblygu ymwybyddiaeth o’n hunaniaeth unigryw fel cenedl. Gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio, rydym yn colli cyfleoedd hollbwysig i Gymru os na wnawn hyn yn iawn. Fel y rhybuddiodd Laura McAllister, yn gywir ddigon, byddai’n anfaddeuol peidio ag achub ar y cyfle hwn. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i leddfu’r pryderon a fynegwyd, a phryd y cawn yr wybodaeth ddiweddaraf am y tîm, yr adnoddau a’r amcanion a roddwyd ar waith, ac a fydd y rhain ar waith cyn y toriad?
Ie, o ran y gwaith a wnawn, wrth gwrs, mae'n amserlen gymharol ddiweddar. Mae gwaith wedi'i wneud a'i ragweld ymlaen llaw, ond tan yr achlysur gwych yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan wnaethom sicrhau ein lle yng nghwpan y byd, ni allem fod yn sicr o'n sefyllfa, ac roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn arbennig o awyddus i beidio â chael eu gweld yn ymddwyn fel pe baem wedi sicrhau ein lle cyn inni wneud hynny. A dweud y gwir, ar y daith fasnach, y daith fasnach wyneb yn wyneb a arweiniais i Qatar, roedd yn ddefnyddiol iawn cael cysylltiadau uniongyrchol yn llysgenhadaeth y DU yno, ac maent wedi dweud yn glir iawn eu bod am gefnogi holl wledydd y DU sy'n cyrraedd cwpan y byd, ac mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Felly, mae gennym gysylltiadau yno ar lawr gwlad, ond hefyd, mae ymgyrch GREAT y soniwch amdani yn gyfle ac yn risg. Byddwn am i arian Llywodraeth y DU fod o fudd i Gymru wrth iddo gael ei wario, ac ni all ymgyrch GREAT fod yn Lloegr mewn enw arall yn unig. Mae Lloegr eu hunain wedi cyrraedd cwpan y byd, ac edrychaf ymlaen at fod yno i weld Cymru’n eu curo ar ddiwedd y cam grŵp, ond mae’n rhaid inni nodi'n glir fod ymgyrch GREAT i fod ar gyfer holl rannau cyfansoddol Prydain, ac felly mae hynny'n un o'n heriau. Felly, rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch hynny.
Rydym yn glir nad ydym am gael ein tynnu i mewn i rywbeth sy'n tanseilio ein hunaniaeth, a'r estyniad a'r cyfle y mae hyn yn ei ddarparu, yn rhan o ymgyrch ehangach nad yw'n bodloni ein hamcanion ein hunain. Mae'n ymwneud â'r gwaith yr ydym am ei wneud yn y rhanbarth ei hun, ond mae'n ymwneud hefyd â'r gallu i arddangos Cymru ar lwyfan byd, yn dilyn y digwyddiad WWE ym mis Medi yma yng Nghaerdydd. Mae hynny'n bennaf oherwydd y gallu i ddod â ffocws ar Gymru mewn marchnad fawr iawn lle mae mwy o gyfleoedd i Gymru achub arnynt. Mae'r ffaith bod ein gêm gyntaf yn y grŵp yn erbyn UDA yn gyfle gwirioneddol bwysig i ni. Felly, mae'n ymwneud â mwy na chyfleoedd yn y rhanbarth yn ffisegol, mae'n ymwneud â llwyfan y byd hefyd.
Gallaf gadarnhau bod y Prif Weinidog wedi gofyn imi arwain gwaith ar draws y Llywodraeth ar gyflawni a datblygu cynllun gyda’n rhanddeiliaid, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn ehangach. Felly, rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am waith y grŵp hwnnw, a’r cyflymdra cynyddol yn y gwaith y bydd angen inni ei wneud dros yr haf, ac yn wir, yn yr ychydig fisoedd cyn inni gymryd rhan ar lwyfan y byd yn y rowndiau terfynol am y tro cyntaf ers 64 mlynedd.
Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno ei chwestiwn. Mae cwpan y byd yn gyfle delfrydol i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd, ond gadewch inni edrych ychydig yn ehangach ar y llwyfan byd-eang hwnnw. Mae gan Lywodraeth Cymru 21 o swyddfeydd rhyngwladol ac mae gan bob un gylch gwaith i ddenu mewnfuddsoddiad. Fodd bynnag, mae’n amheus pa mor effeithiol y bu’r rhain o ran sicrhau cyfleoedd newydd i fusnesau Cymru; er enghraifft, dim ond un neu ddau aelod o staff sydd gan y mwyafrif o’r swyddfeydd hyn ac rwy'n credu mai dim ond tua £750,000 o gyllideb rhwydwaith sydd gennym. Os rhannwch hynny, mae'n oddeutu £35,000 i bob swyddfa fyd-eang.
Weinidog, roeddwn yn meddwl tybed pa asesiad a wnaethoch o effeithiolrwydd ein swyddfeydd tramor yn hybu masnach i fusnesau Cymru. Pa ystyriaeth a roesoch i ddarparu adnoddau ychwanegol i helpu i ehangu capasiti’r swyddfeydd hynny? Mae mor bwysig ein bod yn hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd ac yn gwneud hynny’n effeithiol, ac nid yn dameidiog. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud cynnydd, ac roeddwn yn meddwl tybed pa gynlluniau penodol sydd gan y Llywodraeth i roi hwb i rôl y swyddfa ryngwladol yn Doha, Qatar, o ystyried y bydd cwpan y byd yn cael ei gynnal yn y wlad honno'n fuan. Diolch.
Wel, mae'n ddefnyddiol fy mod wedi ymweld â'r rhanbarth ddwywaith yn awr, ac mae ein swyddfa yn Doha yn gweithio ar ystod o feysydd. Er nad oes gennym niferoedd enfawr o staff yn ein swyddfeydd, mae gan saith o'r gwledydd sydd wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol cwpan y byd y dynion swyddfeydd Llywodraeth Cymru ynddynt. Rwy’n credu ein bod yn gwneud yn well na’r disgwyl o ran lle mae’r swyddfeydd hynny wedi’u lleoli, yn rhannol oherwydd, ar lawr gwlad, i ffwrdd o wleidyddiaeth rhai o’r gwahaniaethau parhaus a fydd rhyngom ni a chyfeiriad gwleidyddol Llywodraeth y DU, mae cysylltiadau da iawn rhwng y llysgenhadaeth a thimau’r Adran Fasnach Ryngwladol ym mhob un o’r gwledydd hynny. Gwelais hynny drosof fy hun pan oeddwn yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ac yn wir, yn Qatar hefyd.
Rwy’n meddwl bod rhan o’r her yn ymwneud ag un o’r pwyntiau a wnaethoch ar y diwedd: pa mor effeithiol y gallwn fod yn manteisio ar y cyfleoedd sy’n bodoli? Hyd yn hyn, gallaf ddweud yn onest wrthych fod yr amrywiaeth o gysylltiadau yr ydym wedi llwyddo i'w darparu, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i fusnesau Cymru, wedi gwneud argraff fawr arnaf. Nid oes angen ichi dderbyn fy ngair i; os siaradwch â busnesau bwyd a diod yn rhanbarth y dwyrain canol, maent yn gadarnhaol iawn ac yn canmol y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ochr yn ochr â hwy i agor marchnadoedd newydd. Os siaradwch â’r busnesau sydd wedi bod ar deithiau masnach, unwaith eto byddant yn dweud bod y gwaith y mae ein swyddfeydd yn ei wneud yn real ac yn arwyddocaol.
Gan fod fy nghyd-Aelod wedi dod i mewn i’r Siambr, dylwn gydnabod bod llawer o hynny’n dod o’r strategaeth ryngwladol a luniwyd gan Eluned Morgan pan oedd mewn rôl weinidogol flaenorol. Rwy'n credu y byddwn yn gweld budd gwirioneddol o hynny, nid yn unig yn y misoedd nesaf ond yn llawer mwy hirdymor hefyd.
Mae cwestiwn 4 [OQ58351] wedi'i dynnu yn ôl, felly cwestiwn 5, Rhys ab Owen.