1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2022.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd Brexit ar Gymru? OQ58339
Mae economi Cymru yn dilyn economi'r DU yn eithaf agos ar y cyfan. Amcangyfrif cyfredol Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Llywodraeth y DU yw bod Brexit wedi lleihau cynnyrch domestig gros y DU tua 1.5 y cant hyd yma, gyda gostyngiad pellach o 2.5 y cant i ddod eto. Yr Undeb Ewropeaidd fydd partner masnachu agosaf a phwysicaf y DU o hyd, a dylem anelu i sicrhau'r fasnach agosaf a mwyaf llyfn sy'n bosibl gyda'r UE.
Diolch yn fawr, Weinidog. Nid yw Brexit yn gweithio i Gymru. Mae wedi costio biliynau i ni a'r DU mewn masnach a refeniw treth a gollwyd; mae cynnyrch domestig gros wedi gostwng, mae buddsoddiad wedi gostwng ac mae masnach nwyddau wedi gostwng. Gyda'r chwyddiant uchaf ers canol y 1970au, gyda'r argyfwng costau byw yn brathu'r bobl yn ein cymunedau, nid yw safbwynt presennol Llywodraeth Cymru a Llafur yn San Steffan yn gynaliadwy. Weinidog, rydym yng nghanol tymor y cystadlu am arweinyddiaeth yn awr. Bydd un yn digwydd yma yn fuan. A wnewch chi gyflwyno datganiad yn fuan, Weinidog, y bydd Cymru'n ailymuno â'r farchnad sengl?
Nid yw swydd y Prif Weinidog yn wag, ac ni fydd yn wag am y dyfodol y gellir ei ragweld. Edrychwch, o ran realiti ein safbwynt, rwyf wedi dweud y bu gostyngiad mewn masnach, ac mae gan Gymru fwy o fasnach gyda'r UE o gymharu â gwledydd eraill Prydain, felly mae'n her fwy i ni. Ac rwy'n ymwneud â rhai o'r agendâu polisi anghyson a gwrthnysig yn Llywodraeth y DU ar ffiniau a'n masnach barhaus, ac mae'n bwysig. Rwyf eisiau gweld ein sefyllfa bresennol yn gweithio cystal â phosibl. Byddai'n well gennyf—ac mae hyn wedi'i gofnodi—pe na baem wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond pleidleisiodd pobl yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, dros adael, a rhaid inni geisio mynd i'r afael â hynny gan sicrhau cyn lleied o niwed â phosibl, a cheisio bachu ar gyfleoedd lle bo rheini ar gael, a bydd angen rhywfaint o onestrwydd ar ein rhan ynghylch yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Tra bo gennym rai safbwyntiau ar lefel Llywodraeth y DU ynglŷn â'r hyn na allwn ei wneud, mae hynny'n creu her wirioneddol i ni, ond gobeithio y bydd synnwyr cyffredin a synnwyr cyffredin economaidd yn trechu ynghylch y math o berthynas y dylem ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd, oherwydd byddai hynny ynddo'i hun yn goresgyn rhai o'r heriau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu heddiw.
Weinidog, mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru 'Brexit a Chymru'
'yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn arwain busnesau drwy'r rheoliadau newydd; yn annog ailhyfforddi a chreu swyddi yn y sector tollau i ateb y galw cynyddol; yn cynnal cyllid brys ar gyfer sectorau y mae oedi ar y ffin yn effeithio arnynt; ac yn monitro'r effeithiau ar borthladdoedd Cymru yn barhaus.'
A yw'r Gweinidog yn derbyn gweithrediad yr argymhellion hyn, ac os felly, pa gynnydd y gall ei adrodd? Diolch.
Rydym bob amser wedi cydnabod, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, y byddai'r gallu i fasnachu yn dal i fod yno, ond y byddai rhwystrau ychwanegol i hynny. Yr her mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd yw bod mwy o rwystrau nag a fyddai wedi bod fel arall. Yr hyn yr ydym yn dal i geisio'i wneud yw annog busnesau i barhau â'r fasnach honno, i barhau i fod eisiau bod yn allforwyr. Dyna pam y mae gennym raglen gwerth £4 miliwn i gefnogi allforion yn yr economi. Roeddwn wrth fy modd yn gweld BBC Cymru yn adrodd ar hanesion llwyddiannus mewn perthynas ag allforio yn ddiweddar, gan gynnwys un yn fy etholaeth fy hun. Yr her, fodd bynnag, yw ei fod wedi atal nifer o fusnesau rhag allforio.
Cyfarfûm yn ddiweddar â busnesau bach yn fy etholaeth i a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, a chafwyd ymgysylltiad uniongyrchol a gonest iawn ynghylch rhai o'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth ddod â nwyddau i mewn ac wrth allforio hefyd. Cyflwynwyd safbwyntiau tebyg gan Siambrau Cymru a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru hefyd, felly mae'n sicr fod costau ychwanegol wedi'u cyflwyno. Mae'r her yn ymwneud â sut y byddwn yn parhau i gefnogi busnesau, i godi ymwybyddiaeth o'r hyn y bydd angen iddynt ei wneud a'r costau ychwanegol a allai ddod yn sgil hynny, ond parhau i'w hannog i fod eisiau bod yn fusnesau allforio llwyddiannus, oherwydd dylai hynny ddal i helpu i dyfu economi Cymru a swyddi o ansawdd da.
Prynhawn da, Weinidog. A gaf fi barhau â thema gadael yr Undeb Ewropeaidd? O edrych ar Brexit heb ei goginio'n iawn y Ceidwadwyr, roeddwn eisiau canolbwyntio ar fesurau rheoli a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ynghylch mewnforion risg uchel fel anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion. Mae rhai cynrychiolwyr o'r diwydiant wedi rhybuddio y byddai'r mesurau rheoli hyn yn cynyddu costau cwmnïau bwyd y DU yn sylweddol, gannoedd o filiynau o bunnoedd o bosibl. Yn amlwg, bydd y costau hynny'n cael eu trosglwyddo i'r defnyddwyr. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni, os gwelwch yn dda, Weinidog, ynghylch pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i Lywodraeth y DU ynghylch llesteirio'r costau hynny i fusnesau, er mwyn atal y gost rhag cael ei throsglwyddo i'n haelwydydd sydd eisoes dan bwysau? Diolch yn fawr iawn.
Wel, mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio, sawl gwaith yn y Siambr hon, at y dystiolaeth ddiweddar ar yr effaith uniongyrchol y mae Brexit wedi'i chael ar gostau bwyd yn gyffredinol, yr heriau o ran mewnforio ac allforio i fusnesau bwyd a diod yn y DU yn enwedig, ac mae wedi bod yn nodwedd reolaidd yn y sgyrsiau ynghylch ffiniau a masnach a gefais yn fwyaf diweddar mewn sgwrs eithaf rhwystredig gyda Michael Ellis, Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, ac mae hynny'n ymwneud â realiti'r sefyllfa yr ydym ynddi gyda'r rhaglen. Mae'n golygu bod gan fusnesau sydd eisiau allforio o Gymru i ynys Iwerddon, er enghraifft, wiriadau ar nwyddau, ond mewn gwirionedd, nid yw hynny'n wir am nwyddau sy'n dod o'r cyfeiriad arall ar hyn o bryd. Efallai fod hynny'n golygu bod y nwyddau hynny'n rhatach, ond mae'n rhoi ein busnesau ein hunain o dan anfantais.
Ac un o'r heriau sydd gennym ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yw nad oes gennym bellach y fantais a oedd gennym o'r blaen o gael golwg gynnar ar risgiau i fioddiogelwch. Mae hynny'n golygu ein bod yn fwy agored i niwed, yn enwedig gan nad yw'r gwiriadau cyrchfannau sy'n digwydd ar hyn o bryd ond yn cael eu gwneud ar lai na 5 y cant o'r nwyddau sy'n dod i mewn. Mae hynny'n golygu bod risgiau i ni yn gyffredinol. A phan oeddem o fewn yr Undeb Ewropeaidd, roedd gennym allu o hyd i gyflwyno gwiriadau ychwanegol fel aelodau hefyd. Felly, mae nifer o risgiau yn ein hwynebu, o ran bioddiogelwch ac yn wir, ceir anfantais gystadleuol i fusnesau bwyd a diod yn enwedig o dan y trefniadau presennol. A byddwn yn gobeithio, fel y dywedais, y bydd synnwyr cyffredin yn drech yn y pen draw i sicrhau bod busnesau Cymru'n gallu allforio a mewnforio yn llawer mwy cyfartal â chymheiriaid yng ngwledydd Ewrop.
Weinidog, cytunaf yn llwyr â rhagdybiaeth y cwestiwn fod Brexit wedi bod yn niweidiol iawn i economi Cymru. Gallaf gofnodi fy mod yn cytuno, ac rwy'n tybio bod y Gweinidog hefyd, er nad wyf am ei roi yn y sefyllfa o ofyn hyn iddo, ei fod yn anghytuno â gadael y farchnad sengl a safbwynt presennol Plaid Lafur y DU. Ond mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod yn cydnabod, yn deall ac yn disgrifio'r niwed economaidd i'r wlad hon, ein cymunedau a'n pobl yn sgil Brexit, ac yn sgil penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. A wnaiff y Gweinidog addo y bydd Llywodraeth Cymru, o leiaf ddwywaith y flwyddyn, ond byddai'n well gennyf pe baent yn ei wneud bob tymor, yn cyhoeddi dadansoddiad o'r niwed y mae Brexit yn ei wneud i economi Cymru, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r niwed hwnnw? Oherwydd mae angen inni ddeall dimensiwn y problemau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd os ydym am fynegi ffyrdd o fynd i'r afael â hwy.
Nid wyf yn credu y gallwn gytuno â'r ffordd y mae'r pwynt wedi'i eirio, oherwydd mae'n dod ato o safbwynt penodol. Ond rwy'n credu bod y pwynt am ba mor rheolaidd yr ydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r cyhoedd yn ehangach am realiti ein sefyllfa fasnachu newydd yn un teg. Dyna pam y cyfeiriais, wrth ymateb i Rhys ab Owen ar y dechrau, at asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei hun—felly, nid corff Llywodraeth Cymru, ond corff a grëwyd gan Lywodraeth y DU. Yn ôl eu hasesiad hwy, mae'r ffaith ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau y gwnaethom adael wedi crebachu economi'r DU, gyda mwy i ddod. Ac yn ogystal â chyflwyno hynny, rwy'n credu y byddem hefyd eisiau ceisio egluro'r hyn yr ydym yn ei wneud i geisio cefnogi'r economi yn hynny o beth. Byddaf yn hapus i roi rhywfaint o ystyriaeth i'r ffordd y gwnawn hynny, oherwydd mae'n codi'n gymharol reolaidd mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau: y datganiadau y bu'n rhaid i mi eu rhoi ar ffiniau, y gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud ar hynny; mae mwy am yr heriau a'r trefniadau ariannu newydd, a pha mor debygol yw hi y byddwn yn gallu bod yn gysylltiedig â Horizon hefyd, rhywbeth a fydd yn cael effaith sylweddol. Felly, byddaf yn ystyried sut y gallwn wneud hynny'n ddefnyddiol, ac mae'n ddigon posibl y bydd hynny o gymorth nid yn unig i'r Siambr ond i Aelodau yn eu pwyllgorau craffu perthnasol hefyd.