1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2022.
2. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng Nghasnewydd drwy ddod â chyflogaeth i'r ddinas? OQ58348
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid, megis y brifddinas-ranbarth, ac yn wir, Cyngor Dinas Casnewydd, er mwyn darparu manteision economaidd i’r ardal.
Weinidog, diolch byth, mae Casnewydd yn mwynhau llawer o fanteision datblygu economaidd. Credaf fod ei lleoliad daearyddol, rhwng dinasoedd mawr Bryste a Chaerdydd, a'i manteision cyfathrebu yn sgil y system reilffyrdd a'r draffordd, er enghraifft, yn gryfderau pwysig iawn. Ac mae bod yn rhan o’r brifddinas-ranbarth, yn ogystal â phorth trawsffiniol y gorllewin, yn bwysig iawn yn wir. Tybed a allwch ddweud wrth y Siambr, wrthyf fi, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grwpiau rhanbarthol hynny i ddatblygu'r gwaith hwnnw, a sicrhau ei fod yn cynhyrchu'r mathau o fuddion y mae pob un ohonom am i Gasnewydd a'r ardal gyfagos eu cael.
Credaf mai un o'r agweddau allweddol yw'r ffaith, yr ochr hon i'r etholiadau awdurdodau lleol, fod Jane Mudd a'i thîm wedi darparu sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth barhaus, ac mae hynny'n bwysig i ni—cael partneriaid sefydlog y gellir ymddiried ynddynt. Mae'n ymwneud hefyd â'u gwaith yn rhan o'r brifddinas-ranbarth ehangach. Rydym yn gweld dyfodol ar gyfer swyddi o ansawdd uchel yn y ddinas, ac mae gweledigaeth, unwaith eto, fod rhaid i'r cyngor a'r rhanbarth fod yn rhan o'r gwaith o'i chyflawni ar y cyd â'r Llywodraeth. Mae'r bartneriaeth honno'n wirioneddol bwysig. Ac yn wir, mae’r fframwaith economaidd ar gyfer y rhanbarth yn cydnabod cyfleoedd yng Nghasnewydd, o dechnoleg ddigidol, gan gynnwys y sector seiber, technoleg ariannol a deallusrwydd artiffisial, gwyddorau bywyd, ac wrth gwrs, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd. Hoffwn weld—unwaith eto, gan feddwl am gwestiwn blaenorol—rhywfaint o sicrwydd yn y ffordd y bydd y clwstwr hwnnw'n gallu datblygu. Felly, byddai penderfyniad gan Lywodraeth y DU ar Nexperia o fewn y 45 diwrnod nesaf i'w groesawu'n fawr, er mwyn cael sicrwydd ynglŷn â buddsoddiad. Byddai hynny hefyd yn ein helpu gyda dewisiadau ar draws ardal porth y gorllewin, lle mae angen i arweinwyr etholedig yma yn Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol yn y rhanbarth, weithio gyda chydweithwyr ar draws ardal porth y gorllewin, oherwydd yn sicr, ceir synergedd o fuddiannau economaidd, ac edrychwn ymlaen at chwarae rhan adeiladol yn hynny gyda chi, gyda’ch cymydog a'ch cyd-Aelod etholaethol, ac yn wir, gyda'r cyngor a’n cymheiriaid yn San Steffan.
Weinidog, ymwelais â dociau Casnewydd yn ddiweddar i drafod potensial cais gan Associated British Ports i sefydlu porthladd rhydd yn ne Cymru. Fel y gwyddoch, ym mis Mai, cyhoeddwyd bod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi llunio cytundeb i gydweithredu a darparu porthladd rhydd newydd yng Nghymru, wedi'i gefnogi gan £26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gynorthwyo i adfywio cymunedau drwy ddenu swyddi a buddsoddiad a busnesau newydd. Ar ôl cyfarfod â Michael Gove i drafod codi'r gwastad yn y Deyrnas Unedig, archwiliais y posibilrwydd y gallai Associated British Ports wneud cais am borthladd rhydd yng Nghasnewydd. Credwch neu beidio, fe wnes i hynny. Er mwyn i gais o’r fath lwyddo, bydd yn ofynnol i’r holl randdeiliaid, sef ABP, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, gydweithio’n agos i ddatblygu’r achos gorau posibl dros borthladd rhydd yn ne Cymru. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio’n agos mewn partneriaeth â’r rhanddeiliaid hyn i fwrw ymlaen â chais, a pha drafodaethau a gawsoch chi eisoes, efallai, gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â dod â’r swyddi a’r cyfleoedd newydd yr ydych newydd fod yn sôn amdanynt i Gasnewydd? Diolch.
Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r cyhoeddiad ar borthladdoedd rhydd. Fi oedd Gweinidog Llywodraeth Cymru a gwnaeth y cyhoeddiad hwnnw gyda Michael Gove yn ei rôl ar y pryd. A hynny oherwydd ein bod wedi cael, o'r diwedd, ar ôl yr holl sŵn blaenorol, lle roedd yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol wedi dweud yn gyson na ellir sefydlu porthladd rhydd ac mai bai Llywodraeth Cymru oedd hynny, yn y pen draw, dechreuodd yr adran yn Llywodraeth y DU sy'n gwneud y penderfyniadau siarad yn uniongyrchol â ni. Ac roedd modd inni weithio'n weddol gyflym wedyn i gael cytundeb ar brosbectws ar y cyd ar gyfer ceisiadau, lle bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar y cyd. Mae hynny’n cynnwys pethau sy’n bwysig i ni fel, os cofiwch, ein hagenda gwaith teg a diogelu’r amgylchedd. Felly, mae hynny'n bwysig.
Yr her, serch hynny, ar ôl sicrhau cytundeb ar gyllid cyfartal ar gyfer porthladd rhydd, a fu'n destun dadlau yn y gorffennol, yw bod gennym Weinidog gwahanol yn y swydd bellach, sef Greg Clark. Ac nid lladd ar Mr Clark yw fy mwriad, ond y gwir amdani yw nad wyf yn credu y byddwn yn gwneud yr holl gynnydd y gallem fod wedi'i wneud fel arall, oherwydd byddwn yn synnu pe bai Llywodraeth y DU yn gallu gwneud penderfyniadau ar hyn tan ar ôl y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Fodd bynnag, yn y cyfamser, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud cynnydd ar y gwaith o lunio'r prosbectws. Bydd hynny’n golygu siarad ag ystod o randdeiliaid, amrywiaeth o bartïon a chanddynt fuddiant yn y diwydiant, ond hefyd, cydweithwyr yn yr undebau llafur, ac yna dylem allu symud, cyn gynted ag y bydd Llywodraeth y DU yr un mor sefydlog â ninnau yn Llywodraeth Cymru, ac y gallant wneud dewisiadau ynghylch prosbectws eu cais.
Ni fyddaf yn cyfrannu at y gwaith o roi cynigion unigol at ei gilydd, wrth gwrs, gan y byddaf yn un o'r rhai a fydd yn gwneud penderfyniadau ar y cynigion a ddaw o amrywiaeth o ardaloedd yn y wlad, a gwn y bydd pobl ar draws y siambr ddaearyddol yn cefnogi gwahanol gynigion.