Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Weinidog, mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru 'Brexit a Chymru'
'yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn arwain busnesau drwy'r rheoliadau newydd; yn annog ailhyfforddi a chreu swyddi yn y sector tollau i ateb y galw cynyddol; yn cynnal cyllid brys ar gyfer sectorau y mae oedi ar y ffin yn effeithio arnynt; ac yn monitro'r effeithiau ar borthladdoedd Cymru yn barhaus.'
A yw'r Gweinidog yn derbyn gweithrediad yr argymhellion hyn, ac os felly, pa gynnydd y gall ei adrodd? Diolch.