Effaith Economaidd Brexit

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:04, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Nid yw Brexit yn gweithio i Gymru. Mae wedi costio biliynau i ni a'r DU mewn masnach a refeniw treth a gollwyd; mae cynnyrch domestig gros wedi gostwng, mae buddsoddiad wedi gostwng ac mae masnach nwyddau wedi gostwng. Gyda'r chwyddiant uchaf ers canol y 1970au, gyda'r argyfwng costau byw yn brathu'r bobl yn ein cymunedau, nid yw safbwynt presennol Llywodraeth Cymru a Llafur yn San Steffan yn gynaliadwy. Weinidog, rydym yng nghanol tymor y cystadlu am arweinyddiaeth yn awr. Bydd un yn digwydd yma yn fuan. A wnewch chi gyflwyno datganiad yn fuan, Weinidog, y bydd Cymru'n ailymuno â'r farchnad sengl?