Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Dwi'n falch iawn o glywed hynny, oherwydd mae nifer fawr o etholwyr Arfon yn cysylltu â mi am y diffyg darpariaeth. Mae yna nifer cynyddol yn methu â chofrestru efo deintydd NHS, yn cynnwys plant, a does yna ddim lle efo deintyddion yn unman yn y gogledd. Mae'r gwasanaeth brys dan straen hefyd, efo un claf yn honni iddo geisio cysylltu â'r rhif arbennig dros 200 o weithiau mewn diwrnod, ac eraill yn honni eu bod nhw wedi gorfod aros ar y ffôn am dair awr cyn cael ateb gan y gwasanaeth brys. Mi fedrwn i fynd ymlaen ac ymlaen yn rhestru mwy a mwy o'r problemau sy'n cael eu hadrodd imi. Dwi yn falch fod yna rywfaint o oleuni ar gyfer y cleifion yma rŵan. Fedrwch chi roi amserlen ynglŷn â datblygiad yr academi ym Mangor, a phryd ydych chi'n meddwl y gwelwn ni newid sylweddol yn y sefyllfa yn fy etholaeth i?