Gwasanaethau Deintyddol y GIG yn Arfon

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:28, 13 Gorffennaf 2022

Diolch yn fawr. Mae'r sefyllfa yn un anodd o ran deintyddiaeth ar draws Cymru. Wrth gwrs, rŷn ni dal mewn sefyllfa lle mae COVID wedi effeithio ar y gwasanaeth. Roeddem ni i lawr at 50 y cant tan yn ddiweddar iawn, ac rydym ni nawr nôl at tua 80 y cant. Wrth gwrs, mae lot o bobl nawr eisiau gweld deintydd ar ôl aros cyhyd.

O ran yr academi newydd, rwy'n falch iawn y bydd adcademi newydd yn agor ym Mangor yn hydref eleni, ac unwaith y bydd hi wedi ei sefydlu'n llawn, fe fyddwn ni'n disgwyl gweld access i 12,000 i 15,000 o bobl, a bydd honno ar agor chwech diwrnod yr wythnos. Felly, fe fydd hwnna'n gwneud newid sylweddol, gobeithio.

Ond am y tymor byr, mae'r bwrdd iechyd wedi creu mwy o access i bobl sydd yn ffeindio'u hunain mewn sefyllfa urgent, ac maen nhw wedi creu access i'r rheini sy'n ffeindio eu hunain heb ddeintydd os oes yna emergency.