Cwpan y Byd FIFA 2022

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 2:51, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy'n siŵr y cytunwch â mi fod chwaraeon yn eithriadol o bwysig i'n pobl ifanc ledled Cymru nid yn unig o ran eu hiechyd corfforol, ond hefyd eu hiechyd meddwl. Mae'n wych i bobl fynd allan yn yr awyr iach a phrofi hynny. Mae'n gwneud i bobl fod yn agored hefyd—a siarad am eu problemau. Rydych yn sôn am bresgripsiynu cymdeithasol, a chael meddygon teulu i wneud mwy o bresgripsiynu cymdeithasol i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael mynediad at hynny i sicrhau ei fod yn helpu eu hiechyd meddwl. Ond hefyd, mae angen i hynny fynd i ysgolion hefyd, er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn addysgu pobl ifanc am ffyrdd iach o fyw i helpu eu hiechyd meddwl. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf pa waith a wnaethoch ar draws y Llywodraeth i ddeall effeithiau iechyd meddwl a chwaraeon ar ein pobl ifanc?