Cwpan y Byd FIFA 2022

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:52, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, James. Mae hwn yn sicr yn fater trawslywodraethol. Fel y gwyddoch, mae ein cynllun 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn gynllun trawslywodraethol, gyda'r holl Weinidogion yn cyfrannu at yr hyn y ceisiwn ei wneud. Yn amlwg, mae yna rôl bwysig iawn i addysg, ac rydym mewn sefyllfa unigryw o dda yng Nghymru gyda'n cwricwlwm newydd, gyda'n maes dysgu sy'n canolbwyntio ar iechyd a llesiant, i ymgorffori'r ddealltwriaeth honno o iechyd mewn ysgolion fel bod ein pobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Hefyd, bydd pobl ifanc yn nodwedd o'r hyn a wnawn drwy ein rhaglen presgripsiynu cymdeithasol. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad yw hynny i'w weld yn rhywbeth sydd ar gyfer pobl hŷn yn unig, oherwydd gwyddom mai pobl ifanc yn aml iawn sy'n profi unigrwydd fwyaf.