Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi am ganolbwyntio ar COVID hir. Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu y gallai fod rhyw 60,000 o bobl yng Nghymru yn byw efo COVID hir, ac mae'r don dŷn ni ynddi rŵan, wrth gwrs, yn gwneud imi bryderu bod y niferoedd yn mynd i fod yn cynyddu. Mae llawer o'r rhai sydd yn dioddef yn bobl wnaeth gael y feirws tra'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal. Rŵan, ers dechrau'r mis yma, dydy'r rheini wnaeth fynd yn sâl yn gynnar yn y pandemig ddim yn cael eu talu yn llawn bellach, tra eu bod nhw mewn swyddi iechyd tebyg yn Lloegr a'r Alban. Ydy'r Gweinidog yn cytuno y dylai byrddau iechyd ddefnyddio'r disgresiwn dwi'n deall sydd ganddyn nhw i barhau i dalu cyflog yn llawn tan eu bod nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod â'r gweithwyr yma sydd eisiau gwasanaethu o fewn y gwasanaethau iechyd yn ôl i swyddi lle maen nhw'n gallu gwneud hynny?