Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:41, 13 Gorffennaf 2022

Diolch yn fawr, ac mae'n wir, mae yna lot fawr o bobl yn dioddef o COVID hir. Roeddwn i'n siarad gyda mam ddoe a oedd yn sôn wrtha i am ei mab hi sy'n dioddef o COVID hir, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hon yn sefyllfa sy'n anodd iawn i'r rheini, yn arbennig y rheini sydd wedi ein gwasanaethu ni i gyd yn ystod y pandemig. A dyna pam rŷn ni wedi bod yn eithaf gofalus yn yr ardal yma wrth wneud yn siŵr ein bod ni wedi siarad gydag undebau cyn ein bod ni wedi symud ymlaen, a bod pob un yn deall bod yna eithriadau sydd yn bosibl, a bod y byrddau iechyd yn cael defnyddio eu disgresiwn nhw, ac mi fyddwn i'n awgrymu eu bod nhw'n cymryd y cyfle yna.