Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr iawn i Peter Fox am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ymwybodol o Scope, ac rwyf wedi cael llythyr gan Scope hefyd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfarfod â swyddogion Scope ddwywaith eleni. Gallaf eich sicrhau'n llwyr o'n hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc allu chwarae'n ddiogel ac i gefnogi gwell mynediad at chwarae i blant anabl. Mae Llywodraeth Cymru a'r sector chwarae yng Nghymru yn ffafrio chwarae cynhwysol lle gall plant anabl a phlant nad ydynt yn anabl chwarae gyda'i gilydd, a chefnogir hyn gan y Fforwm Polisi Chwarae Plant a Fforwm Diogelwch Chwarae y DU, a ryddhaodd ddatganiad sefyllfa ar y cyd eleni i gefnogi chwarae cynhwysol, sydd, wrth gwrs, yn mynd y tu hwnt i feysydd chwarae hygyrch. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr, sicrhau bod digon o gyfleoedd chwarae ar gael i bob plentyn yn unol â'r darpariaethau o dan adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, ac mae hyn yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer ystyried anghenion plant anabl. Felly, dylai awdurdodau lleol fod yn edrych ar hyn eisoes.
Er mwyn rhoi syniad o faint o gymorth sy'n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru, ers cyflwyno'r ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae ym mis Tachwedd 2012, rydym wedi sicrhau bod £33.330 miliwn o gyllid refeniw ar gael i awdurdodau lleol i'w galluogi i fodloni'r gofynion—mae hynny ers 2012—ond ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22, dyfarnwyd cyfanswm o £8 miliwn o gyllid cyfalaf adferiad COVID i awdurdodau lleol, a oedd yn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau brynu eitemau mawr ac adnewyddu meysydd chwarae a mynediad atynt.