Cyfleoedd Chwarae Plant

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:57, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Weinidog, pan fûm yn trafod chwarae cynhwysol gyda chi yn y gorffennol, roeddem yn cytuno mai'r hyn sy'n allweddol i wella mynediad i'r cyfleoedd hyn yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn hawdd fel bod rhieni, gwarcheidwaid, plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gwybod pa chwarae cynhwysol sydd ar gael a ble mae wedi'i leoli. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod gwybodaeth o'r fath yn cael ei rhannu—rhywbeth sy'n bwysig drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig wrth inni edrych ar wyliau'r haf?