Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Ar 15 Mehefin, mewn ymateb i gwestiwn am gau Sied Dynion Dinbych yn sydyn, fe ddywedoch chi,
'Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r bwrdd iechyd ac wedi cael gwybod, yn dilyn gwiriad iechyd a diogelwch, fod risgiau wedi'u nodi a'u bod yn teimlo'u bod o'r fath natur fel bod angen atal y gwasanaeth hwn dros dro.'
Nawr, mae cwestiynau difrifol wedi'u codi am ddilysrwydd y penderfyniad hwnnw. Mae'n debyg fod y staff dan sylw wedi methu dilyn y weithdrefn, a dywedir wrthyf nad oedd sail i atal y gwasanaeth mewn gwirionedd ac yn y pen draw, dangoswyd ei fod yn annilys. Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi, wrth gwrs, i ddathlu ailagor Sied Dynion Dinbych wedi hynny, er gwaethaf y trafferthion niweidiol a achosodd hynny i rai o'n pobl fwyaf bregus ac agored i berygl, ond a gaf fi ofyn: pa broses sydd gan y Llywodraeth ar waith i wirio a yw'r wybodaeth a ddarperir i chi gan gyrff eraill, wrth ichi baratoi i ateb y cwestiynau hyn, yn gywir mewn gwirionedd ac yn adlewyrchu realiti'r sefyllfa ar lawr gwlad?