Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 13 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:03, 13 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llyr, ac roeddwn yn falch iawn fod sied y dynion ar agor eto, a gwelais ar Twitter eich bod wedi gallu ymweld â hwy i ddathlu'r agoriad hwnnw. Bu swyddogion yn holi'r bwrdd iechyd beth oedd y sefyllfa mewn perthynas â chau sied y dynion yn sydyn. Roeddwn wedi cael e-bost yn ei gylch yn fy mewnflwch fel Aelod o'r Senedd, felly llwyddais i roi gwybod i swyddogion, a chawsom y sicrwydd a roddais wedyn yn y Siambr fod materion iechyd a diogelwch wedi'u hamlygu, ond bod y rhain yn cael eu datrys yn dilyn rhywfaint o weithredu brys. Yn amlwg, pan fyddwch yn cael gwybodaeth, rydych yn gobeithio ei bod yn gywir. Os ydych yn dweud nad yw hynny'n wir, hoffwn eich cynghori efallai i ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny.