Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Rwyf am ddechrau drwy ailadrodd galwadau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am yr amser priodol i bwyllgorau’r Senedd ystyried cyllideb ddrafft 2023-24 a chyflwyno adroddiad arni. Rwy’n llwyr ddeall effaith digwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth ar Lywodraeth Cymru, megis amseriad cyllideb hydref Llywodraeth y DU, a chroesawaf ymgysylltiad y Gweinidog â’r Pwyllgor Cyllid ynghylch amserlen eleni. Anogaf y Gweinidog i wneud yr hyn a all i roi amser i’r Senedd wneud cyfiawnder â’i gwaith craffu ar gyllideb ddrafft 2023-24.
Hoffwn yn awr godi rhai materion traws-bolisi pwysig sydd, yn fy marn i, yn berthnasol i bob pwyllgor, ac yn wir, i bob Aelod. Mae'r cyntaf yn ymwneud â deall effaith y gyllideb ar wahanol grwpiau o bobl. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ar 5 Gorffennaf ar gyllidebu ar sail rhyw a chyfraniad Aelodau o bob rhan o’r Siambr i’r ddadl honno. Cytunaf â’r Gweinidog fod cyllidebu ar sail rhyw yn darparu lens werthfawr y gallwn ei defnyddio i edrych ar effaith penderfyniadau gwariant ar fenywod ac ar ferched, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru ddysgu o brofiad gwledydd eraill a defnyddio’r dysgu hwnnw i gyflymu’r amser y mae’n ei gymryd i sicrhau bod cyllidebu ar sail rhyw yn gwreiddio yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, rydym ni fel pwyllgor yn pryderu ynglŷn ag effaith y gyllideb ar blant a phobl ifanc. Ar 8 Chwefror, mynegais ein pryder i’r Aelodau nad oedd y Llywodraeth hon wedi cyhoeddi unrhyw asesiadau o’r effaith ar hawliau plant i ddangos sut roedd hawliau plant wedi siapio dyraniad cyllideb ddrafft 2022-23 ar gyfer plant a phobl ifanc. Mewn gwirionedd, ni soniwyd am hawliau plant unwaith yn yr asesiad effaith integredig strategol cyfan. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau ei bod wedi gwrando ar ein pryderon ac amlinellu, efallai, fod hawliau plant wedi siapio penderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch y blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2023-24?
Yr ail fater traws-bolisi yr hoffwn ei godi heddiw yw’r llinell sylfaen ddiwygiedig, fel y’i gelwir. Cyfres o ffigurau yw'r llinell sylfaen ddiwygiedig y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i gymharu cyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf â gwariant y llynedd. Rwy'n siŵr nad ni yw'r unig bwyllgor sy'n ei chael hi'n anodd deall o ble y daw'r ffigurau ar gyfer y llinell sylfaen ddiwygiedig. Nid cyllideb ddrafft y flwyddyn flaenorol mohonynt, ac nid cyllideb atodol y flwyddyn flaenorol mohonynt ychwaith. Ond gadewch imi ddweud yn glir: rwy'n cefnogi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i alluogi cymariaethau mwy addas rhwng blynyddoedd ariannol, ond os yw pwyllgorau'n ei chael hi'n anodd deall sut y caiff y llinell sylfaen ddiwygiedig ei chyfrifo, mae hynny'n golygu nad yw'n ddigon clir. Mae angen ei chyfrifo mewn modd tryloyw a chyson. Mae angen i bwyllgorau wybod ble mae'r cyllid yn cynyddu, ble mae'n gostwng, ble mae'n cael ei dorri'n gyfan gwbl, pwy fydd yn cael eu heffeithio a pham. O ystyried y gorgyffwrdd sylweddol ar draws cylchoedd gwaith pwyllgorau, mae'n rhaid i’r dull o gyfrifo’r llinell sylfaen fod yn gyson ar draws portffolios gweinidogol hefyd. A byddwn yn croesawu gweithio ar y cyd â phwyllgorau eraill yn fawr iawn er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio'n agos ar y materion traws-bolisi hollbwysig hyn.
Rwyf am nodi dwy flaenoriaeth ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae ein gwaith hyd yma wedi codi pryderon dro ar ôl tro am iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Rydym yn pryderu am iechyd meddwl oherwydd effaith COVID. Rydym yn bryderus yng ngoleuni effaith aflonyddu rhywiol eang rhwng cyfoedion ar iechyd meddwl—ein hadroddiad a gyhoeddwyd y bore yma. Rydym yn pryderu am yr hyn a glywsom yn ystod ein hymchwiliad i absenoldeb disgyblion am y cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a phresenoldeb yn yr ysgol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd pryderon yn cael eu codi gan fyfyrwyr ac eraill wrth inni gychwyn ein hymchwiliad nesaf i gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch yr hydref hwn. Rwy'n ymwybodol o ymrwymiad y Llywodraeth i’r agenda hon, ac anogaf y Llywodraeth i ymrwymo cyllid i ymdrin â’r mater hollbwysig hwn, gyda theuluoedd, mewn ysgolion, mewn ysbytai, mewn prifysgolion, ochr yn ochr â phartneriaid yn y trydydd sector ac mewn mannau eraill.
Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi lansio ymchwiliad dros dymor cyfan y Senedd i weithredu diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol a'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Rydym wedi clywed drwy gydol ein gwaith hyd yma am bwysigrwydd cefnogi staff ysgolion i roi’r diwygiadau hynny ar waith yn effeithiol. Golyga hyn roi digon o gyllid i awdurdodau lleol ddarparu ar gyfer cyllidebau craidd ysgolion. Mae hefyd yn golygu gweithio gyda llywodraeth leol i'w hannog i wario'r arian hwn ar ysgolion. Yn ychwanegol at hynny, bydd angen cyllid wedi’i dargedu o’r gyllideb addysg i gefnogi blaenoriaethau penodol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau uchelgeisiol hyn yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i lwyddo. Maent yn rhy bwysig i fywydau plant a phobl ifanc i beidio â gwneud hynny. Diolch.