Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Byddaf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Mae tai priodol wedi bod yn bryder allweddol i'n pwyllgor ers amser maith, a hoffem annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyllid i sicrhau bod gan gynifer o bobl â phosibl yng Nghymru le diogel i fyw ynddo, gan weithio tuag at sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le diogel i fyw ynddo.
Pan siaradais â chi yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft yn gynharach eleni, pwysleisiais bryder y pwyllgor am y nifer uchel o bobl sy'n byw mewn llety dros dro. Mae'n hanfodol fod pobl yn cael eu symud i lety parhaol, hirdymor os ydym am sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyr ac nad yw'n cael ei ailadrodd, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i addo yn ei strategaeth. Ers hynny, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl mewn llety dros dro, gan gynnwys pobl o Wcráin, sydd wedi cael llety dros dro yng nghanolfannau croeso Llywodraeth Cymru. Credwn y dylai sicrhau llety hirdymor mewn amgylchedd diogel fod yn flaenoriaeth allweddol. Mae gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth. Maent yn wynebu pwysau sylweddol i sicrhau llety addas i'r rhai mewn angen. Rydym yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd ac i weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu tai priodol. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw yn y gyllideb ddrafft drwy sicrhau darpariaeth ddigonol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, a blaenoriaethu arian at y dibenion hynny.
Maes allweddol arall sy'n peri pryder i'r pwyllgor yw diogelwch adeiladau ac ymgymryd â'r gwaith adfer sydd ei angen i wneud adeiladau'n ddiogel, a hoffem weld hyn hefyd yn cael ei flaenoriaethu yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Yn wir, cyfarfu aelodau o'r pwyllgor yn gynharach heddiw â chynrychiolwyr o grŵp Welsh Cladiators, sy'n parhau i godi eu pryderon niferus a phwysleisio eu rhwystredigaeth ynghylch graddfa a chyflymder y cynnydd sy'n cael ei wneud.
Ar ochr llywodraeth leol, roeddem yn croesawu'r setliad i awdurdodau lleol y llynedd ac roeddem yn gobeithio y byddai'n eu galluogi i gyflawni cynllunio mwy hirdymor, yn hytrach nag ymateb i bwysau uniongyrchol yn unig. Ers hynny, rydym wedi gweld prisiau'n parhau i godi yn gyffredinol, sy'n amlwg yn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau lleol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried effaith yr argyfwng costau byw ar awdurdodau lleol, a darparu setliad sy'n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau mewn modd cynaliadwy. Diolch yn fawr.