Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am eu gwaith yn llunio'r adroddiad hwn. Fel y gŵyr y Gweinidog, hoffwn weld cyllideb ar gyfer plant a phobl ifanc. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd, roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn darllen barn Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Maent wedi tynnu sylw at wella gwasanaethau iechyd meddwl fel un o'u blaenoriaethau allweddol ar gyfer y tymor hwn, ac unwaith eto, tynnwyd sylw at hynny fel blaenoriaeth allweddol pan ymgysylltodd y pwyllgor â hwy. Yn ogystal â hyn, galwodd rhanddeiliaid allweddol a nodwyd gan y pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun iechyd meddwl cadarn ar draws prifysgolion Cymru, gan edrych unwaith eto ar anghenion iechyd meddwl ein pobl ifanc. Hoffwn gymeradwyo'r ymagwedd hon yn llawn, ond mae angen gwneud mwy i helpu pob plentyn a pherson ifanc gyda'u hiechyd meddwl.
Ym mis Ebrill eleni, roedd 59 y cant o bobl ifanc yn aros dros bedair wythnos am apwyntiad gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Mae Llywodraethau olynol, Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig, wedi sôn am bwysigrwydd sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac eto, mae rhestrau aros yn dal i fod yn frawychus o uchel. Felly, hoffwn annog y Llywodraeth, wrth ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb nesaf, i fynd i'r afael â'r mater gwirioneddol ddifrifol hwn unwaith ac am byth.
Yn ogystal â phobl ifanc, hoffwn siarad am ddannedd, a dychwelyd at ddeintyddion unwaith eto. Mae gennym brinder deintyddion GIG, nid yn unig yn fy rhanbarth i, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru, ond ledled Cymru a ledled y DU. Mae'n fater y mae llawer ohonom wedi'i godi. Mae'r diffyg deintyddion, yn enwedig i'n plant a'n pobl ifanc unwaith eto yn golygu bod hon yn broblem iechyd go iawn wrth symud ymlaen, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi cael gohebiaeth ar hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi o bob rhan o'r rhanbarth yn cwyno am restrau aros o flynyddoedd, yn hytrach na misoedd, er mwyn gallu cael eu trin gan ddeintydd GIG. Penderfynodd un etholwr—a dyma rybudd bach yma—lenwi twll yn ei ddant ei hun gyda phecyn cartref am eu bod wedi aros cyhyd am apwyntiad. Mae hynny mor drist ac nid yw'n dderbyniol. Pan ofynnais am ymateb ar y mater, mae'n ymddangos bod yr ateb yn canolbwyntio ar sut y gallem recriwtio a chadw mwy o ddeintyddion, ac er fy mod yn cytuno'n llwyr, nid oes newid sylweddol wedi bod i'r rhai sy'n aros yn daer am driniaeth. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: wrth ystyried meysydd ar gyfer cynyddu cyllid yn y gyllideb sydd i ddod, byddai ymrwymiad clir i'r sector deintyddol yma yng Nghymru yn cael effaith radical ar y rhestrau aros presennol ac ar iechyd ein plant a'n pobl ifanc.
Mater arall y credaf y dylai Llywodraeth Cymru weithredu yn ei gylch ar unwaith yw diogelwch tân mewn adeiladau. Gadewch inni feddwl am yr hyn y siaradwn amdano yma: mae unigolion a theuluoedd yn byw mewn blociau o fflatiau y gwyddant eu bod yn anniogel, ac maent yn dal i aros i waith adfer ddechrau. Hoffwn annog y Llywodraeth i fuddsoddi arian mewn gwaith adfer yn awr a rhoi pwysau ar ddatblygwyr i gyfrannu at unioni eu camweddau'n llawn.
Ac yn olaf, hoffwn adleisio'r hyn y soniodd fy nghyd-Aelod, Heledd Fychan, amdano yma. Ym mis Ionawr cyflwynais y cynnig o drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc dan 25 oed. Nododd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ei gefnogaeth gyffredinol i gynnig o'r fath, ac awgrymodd fod angen ymchwilio ymhellach iddo. Ers hynny, mae'r Almaen wedi cyflwyno tocyn misol o €9 ar gyfer teithio diderfyn ar fysiau, trenau, tramiau a thanlwybrau. A heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Sbaen y bydd pob taith trên pellter byr a chanolig yn rhad ac am ddim o fis Medi ymlaen. Felly, gallwn ei wneud yma yng Nghymru. Byddai'r cynnig nid yn unig yn ein helpu i orymdeithio tuag at ein cynnig sero net, byddai hefyd yn allweddol i fynd i'r afael ag allgáu ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Felly, yn olaf, hoffwn ofyn i'r Gweinidog a fyddai'n fodlon cyfarfod â mi i edrych ar gyllideb plant a phobl ifanc wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.