Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i siarad yn nadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, a hynny gan dynnu ar brofiad y pwyllgor o'i waith craffu cyllidebol cyntaf erioed ar gyllideb ddrafft 2022-23. Y rheswm pam rwy'n siarad yw er mwyn canolbwyntio ar fater cyfiawnder, ond hoffwn ddweud wrth fynd heibio ei bod yn wych clywed y cyfraniadau sydd wedi bod eisoes o ran y ffordd y mae pobl ifanc a phlant wedi dylanwadu a siapio, gyda'u lleisiau'n cael eu clywed yn y Siambr hon eisoes.
Penderfynasom fel pwyllgor, yn enwedig gydag ychwanegu cyfiawnder at ein cylch gwaith, y byddai hon yn nodwedd reolaidd o'n rhaglen waith. Felly, edrychwn ymlaen yn unol â hynny at gyfrannu at y gwaith o graffu ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Ar fater cyfiawnder, roedd gennym ddiddordeb mawr yng nghynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant yn y maes hwn wrth inni graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23. Yn fwy diweddar hefyd wrth gwrs, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei rhaglen waith, 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', sy'n cynnwys ei chynlluniau mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys cyfiawnder troseddol, cyfiawnder teuluol, mynediad at gyfiawnder, y sector cyfreithiol a chyfiawnder sifil a gweinyddol. Felly, rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y rhaglen hon yn datblygu, ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo droeon i adrodd yn rheolaidd ar ei chynnydd i'n pwyllgor ac i'r Senedd.
Mae hwn yn faes sydd o ddiddordeb gwirioneddol i'n rhanddeiliaid hefyd, fel y gwelsom pan wnaethom ymgysylltu ag ymarferwyr cyfreithiol a chyfreithwyr yn bersonol yn gynharach eleni ar fater mynediad at gyfiawnder. Roedd rhai a gymerodd ran yn y gweithgarwch ymgysylltu hwnnw'n awyddus i gydnabod y buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn pethau fel cyngor lles cymdeithasol, yn dilyn gweithredu Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, ond roeddent yn dweud y byddai angen cymorth pellach i ateb y galw.
Felly, er mwyn ein helpu ni a'n rhanddeiliaid a'r Senedd hon, yn wir, i ddeall faint o gyllideb Llywodraeth Cymru sy'n mynd tuag at wariant ar gyfiawnder ac i lle mae'r gwariant hwnnw'n mynd, rydym wedi galw am ddadgyfuno'r gwariant hwnnw yn y dyfodol. A diolchwn i'r Cwnsler Cyffredinol am ddweud wrthym y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn archwilio'r ffyrdd y gall wella lefel yr wybodaeth y mae'n ei darparu am wariant cyfiawnder, felly edrychwn ymlaen at weld canlyniad hynny. Nid wyf yn gwybod a yw'n rhy gynnar i'r Gweinidog roi unrhyw ddiweddariad i ni ar y cam hwn. Rwy'n tybio bod hynny'n dal ar y gweill. Ond diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am drefnu'r ddadl bwysig hon heddiw, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi a phwyllgorau eraill y Senedd wrth inni graffu ar gynigion gwariant Llywodraeth Cymru eleni ac yn y dyfodol.