Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 11 Medi 2022.
Rydym ni’n cynnig ein cydymdeimladau dwysaf i'r Brenin newydd a'i deulu. Mae ein meddyliau gyda Thywysog a Thywysoges newydd Cymru. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y bennod newydd hon yn eu bywydau o wasanaeth. Yn Gymraeg, mae yna ddihareb: colli tad, colli cyngor; colli mam, colli angor. Rydym ni'n dymuno iddynt y nerth i alaru yn eu colled, a dymuniadau da iddynt a'u teulu ar gyfer y dyfodol.