COVID mewn Cartrefi Gofal

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 20 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:35, 20 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Cafodd y wybodaeth y byddai ymchwiliad mwy a phenodol i gartrefi gofal ei rannu'n eang ar y cyfryngau cymdeithasol gan grŵp ymgyrchu COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, yn dilyn eu cyfarfod gyda chi ychydig wythnosau yn ôl, a byddai'n ddefnyddiol cael eglurder ynghylch amserlen y dull a pha un a fydd yn ymdrin â rhyddhau'r henoed o'r ysbyty i gartrefi gofal heb brawf. Yn ogystal â gofyn am eglurder ynghylch hyn, dywedodd y teuluoedd mewn profedigaeth hefyd eu bod nhw wedi trafod ymchwiliadau i heintiau mewn ysbytai yng Nghymru gyda chi. A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, pryd y bydd adrodd a gweithredu'r argymhellion yn digwydd? Ac rwy'n deall bod y grŵp ymgyrchu wedi holi eich tîm chi a thîm y Gweinidog iechyd ar hyn ddwywaith ond heb glywed unrhyw beth ers hynny, ac, o ystyried bod 1,619 o ymchwiliadau wedi'u cwblhau, rwy'n clywed na chysylltwyd â theuluoedd o hyd ac maen nhw'n ysu am ddiweddariad.