Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 20 Medi 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae rhai categorïau o breswylwyr cartrefi gofal eisoes wedi eu cynnwys yn y rhaglen waith genedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni gan y Gweinidog iechyd. Mae'r hyn a ddysgwyd o gyfnod cynnar y rhaglen yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r sector cartrefi gofal i ymchwilio i weddill y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID.