Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 20 Medi 2022.
Diolch i Paul Davies am hynna. Rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, am bwysigrwydd deintyddiaeth. Nid yw mor bell yn ôl â hynny yn y Siambr, Llywydd, yr oedd hi'n cael ei awgrymu y byddai'r holl ddeintyddion ar draws Hywel Dda yn gwrthod cytuno ar y contract deintyddol newydd sydd wedi bod ar gael ers 1 Ebrill. Rwy'n falch iawn o ddweud bod 92 y cant o'r contractau yn Hywel Dda bellach yn cael eu darparu o dan y contract newydd, a bod y contract newydd eisoes yn gweithio i wneud yr hyn yr oeddem ni'n gobeithio y byddai'n ei wneud, sef lleihau faint o waith troi handlenni a oedd yn ofynnol o dan yr unedau blaenorol o gontract gweithgarwch deintyddol, ac i ryddhau amser deintyddol i dderbyn cleifion newydd.
Mae 28 mil o gleifion newydd ledled Cymru wedi cael triniaeth ddeintyddol y GIG yn nhri mis cyntaf y flwyddyn galendr hon, ac rydym ni'n disgwyl y bydd unrhyw beth hyd at 110,000 i 120,000 o gleifion newydd yn cael gofal deintyddol gan y GIG dros y flwyddyn o ganlyniad i'r contract. O ystyried y niferoedd mawr iawn sydd wedi manteisio ar y contract yn ardal Hywel Dda, bydd hynny'n dechrau gwneud gwahaniaeth i rai o'r cleifion y cyfeiriodd Mr Davies atyn nhw. Fel Llywodraeth, rydym ni'n parhau i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer deintyddiaeth ledled y GIG—cyllid cylchol a ddarparwyd y llynedd ac eto eleni er mwyn cynorthwyo ein cydweithwyr yn y byrddau iechyd lleol i geisio sicrhau bod gwasanaethau deintyddol ar gael.
Ceir mater mwy hirdymor yma, y mae'n bwysig iawn ein bod ni'n mynd i'r afael ag ef, sef natur y proffesiwn. Fel y gwyddoch chi, os ewch chi i feddygfa deulu a'ch bod chi angen cael gwneud pethau cymharol fach, rydych chi'n debygol iawn o gael eich gweld gan nyrs practis, gan barafeddyg neu, os oes angen ffisiotherapydd arnoch chi, gan ffisiotherapydd—ni fyddwch chi'n gweld meddyg teulu yn awtomatig. Rydym ni angen arallgyfeirio tebyg i ddigwydd yn y proffesiwn deintyddol, fel y bydd pobl wedi'u hyfforddi'n iawn, sy'n gallu gwneud hynny o dan oruchwyliaeth deintydd pan fydd angen triniaethau cymharol fach ar bobl, gan ryddhau'r deintyddion eu hunain—y bobl fwyaf hyfforddedig sydd gennym ni—i wneud y pethau mai dim ond deintydd sy'n gallu eu gwneud. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd ar ei drywydd yn weithredol gyda'r proffesiwn yn ystod gweddill tymor y Senedd hon.