Gwasanaethau Iechyd yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 20 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:20, 20 Medi 2022

—pan fod e'n dod i'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru. Bwrdd iechyd gogledd Cymru ydy'r unig fwrdd yng Nghymru i dderbyn sicrwydd cyfyngedig gan eu harchwilwyr. Mae'r adroddiad blynyddol yn un damniol, ac mae'n amlwg fod y bwrdd yn methu. Mae'n amlwg hefyd fod pob dim yr ydych chi fel Llywodraeth wedi trio'i wneud i ddatrys problemau'r bwrdd wedi methu. Ydych chi rŵan yn derbyn ei bod yn bryd edrych ar strwythur newydd ar gyfer darparu gofal iechyd yn y gogledd?