Gwasanaethau Iechyd yng Ngogledd Cymru

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru? OQ58418

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:19, 20 Medi 2022

Diolch i Mabon ap Gwynfor, Llywydd, am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r bwrdd iechyd lleol, er enghraifft drwy roi cymorth ariannol uniongyrchol, mynediad at arbenigedd clinigol cenedlaethol a chymorth ar gyfer datblygu'r bwrdd. Diben yr ymdrechion hyn ar y cyd yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr ateb. Dwi am gymryd y cyfle yn sydyn i ddiolch i'r prif weithredwr, Jo Whitehead, am ei harweiniad o'r bwrdd dros y 18 mis diwethaf. Rôn i'n obeithiol y buasai pethau yn gwella o dan ei harweiniad hi, ond yn ei hadroddiad blynyddol olaf a gyhoeddwyd ym mis Awst, fe ddywedodd y prif weithredwr,

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:20, 20 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

'Ceir prosesau y mae angen eu gwella yn sylweddol o ran diogelwch cleifion a sicrwydd cydymffurfio' 

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

—pan fod e'n dod i'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru. Bwrdd iechyd gogledd Cymru ydy'r unig fwrdd yng Nghymru i dderbyn sicrwydd cyfyngedig gan eu harchwilwyr. Mae'r adroddiad blynyddol yn un damniol, ac mae'n amlwg fod y bwrdd yn methu. Mae'n amlwg hefyd fod pob dim yr ydych chi fel Llywodraeth wedi trio'i wneud i ddatrys problemau'r bwrdd wedi methu. Ydych chi rŵan yn derbyn ei bod yn bryd edrych ar strwythur newydd ar gyfer darparu gofal iechyd yn y gogledd?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Wel, Llywydd, dwi eisiau talu teyrnged hefyd i Jo Whitehead am bopeth mae hi wedi'i wneud, a thalu teyrnged i aelodau'r bwrdd. A hefyd, rŷn ni'n lwcus i ailapwyntio Mark Polin fel cadeirydd y bwrdd ar gyfer y tymor nesaf hefyd. A dwi'n gwybod bod y bwrdd a'r bobl sy'n arwain y bwrdd ar lefel clinigol yn dal ati i wneud beth yr oedd Jo Whitehead yn ei ddweud yn ei hadroddiad blynyddol hi. Fel rŷn ni wedi esbonio nifer o weithiau ar lawr y Cynulliad, dŷn ni fel Llywodraeth ddim yn meddwl mai'r ffordd orau i helpu pobl yn y gogledd yw rhoi'r bwrdd mewn sefyllfa ble nad ydyn nhw'n gwybod os bydd y bwrdd yn parhau. Dydy hwnna ddim yn mynd i helpu pobl i ganolbwyntio ar y gwaith sydd yna i'w wneud, gwaith rŷn ni'n awyddus, fel Llywodraeth, i helpu'r bwrdd gydag e yn y gwaith caled sydd o'u blaenau nhw.