Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 20 Medi 2022.
Fy mhwynt olaf felly, os caf i. A dim ond heddiw, rydym ni wedi gweld cyhoeddi ffigurau ynglŷn â chyflogaeth menywod yn y gweithle sydd, unwaith eto, yn nodi bod y niferoedd yn codi yng ngweddill y DU, a mwy o fenywod yn cael eu cyflogi yn y gweithle, ond, yn anffodus, yng Nghymru rydym ni wedi gweld niferoedd yn gostwng yn y gweithle—gostyngiad o 3.5 y cant. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cydraddoldeb yn y gweithle, i ninnau allu dilyn gweddill y DU o ran cynnydd yng nghyfranogiad menywod yn y gweithle er mwyn gweld pobl yn dod â chyflog adref i dalu'r biliau aelwyd? Diolch i chi, Prif Weinidog.