Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 20 Medi 2022.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn i chi. A gaf i ddweud wrth agor fy mod i'n credu, wrth ateb cwestiynau'r Prif Weinidog, fy mod i wedi methu â chydnabod haelfrydedd sylwadau arweinydd yr wrthblaid o ran gwaith swyddogion Llywodraeth Cymru dros yr wythnos ddiwethaf? Ac os methais i â gwneud hynny, yna fe hoffwn i wneud yn siŵr fy mod i'n gwneud hynny ar y cofnod nawr, oherwydd fe wnaethpwyd ymdrechion rhyfeddol ac roeddwn i'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am y ffordd y gwnaeth gydnabod hynny.
Rwyf i am ganolbwyntio, os caf i, ar y pwyntiau penodol a godwyd. O ran ffermwyr a'r pwysau sydd arnyn nhw o ran costau, fe fydd 70 y cant o daliadau sengl pobl yn nwylo bron i bob ffermwr yng Nghymru ym mis Hydref eleni. Fe dderbyniodd 97% o holl ffermwyr Cymru'r taliadau hynny ym mis Hydref y llynedd, a byddwn â'r nod o wneud yr un peth eto.
O ran prydau ysgol, nid wyf i o'r farn ei bod yn deg dweud mai gwahaniaeth ideolegol rhyngom ni yw hynny. Bydd y mesurau a gaiff eu cyhoeddi gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn mynd i bob teulu yn y wlad. Yn wir, fe fydd yna fwy o gymorth yn mynd i'r teuluoedd mwyaf cefnog nag a fydd yn mynd i'r teuluoedd mwyaf anghenus. Dull cyffredinol yw'r un y bydd Llywodraeth y DU yn ei gymryd. Ac mae hi'n ymddangos i mi os yw hi'n briodol i wneud yn siŵr bod cymorth yn mynd at bawb yn yr argyfwng ynni, yna ni all dweud y dylai cymorth fynd i bob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru fod yn wahaniaeth ideolegol o ran prydau ysgol am ddim. Fe geir rhesymau da iawn pam mae'r dull cyffredinol yn cael ei fabwysiadu, yn enwedig gyda phrydau ysgol am ddim, i wneud yn siŵr ein bod yn osgoi'r gwarthnod sydd, yn anffodus, wedi bod, ers cymaint o flynyddoedd, yn gysylltiedig â manteisio ar brydau ysgol am ddim.
Y pwynt y mae Andrew R.T. Davies yn ei godi o ran cost y cyfan: rydym ni am ddarparu £260 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni'r polisi hwnnw; mae £60 miliwn o hwnnw'n gyfalaf ac fe gyhoeddwyd £35 miliwn o'r £60 miliwn yn fanwl ar 7 Medi, i wneud yn siŵr bod eich awdurdodau addysg lleol yn cael y sicrwydd bod yr arian ar gael iddyn nhw ar gyfer gwella ceginau, prynu offer ac yn y blaen, a chyflwyno'r polisi yn llwyddiannus.
Rwy'n parhau i fod ychydig yn bryderus ynglŷn â chwestiwn yr Aelod, wrth iddo ddweud wrthyf i ei fod o blaid torri trethi, ond yn dymuno gwybod pa gynlluniau sydd gennyf i i'w codi nhw. Ac rwyf i wedi egluro iddo o'r blaen, pe byddech chi'n ystyried yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud yn ein rhaglen lywodraethu, fe wnaethom ni benderfyniad ar ddechrau'r tymor hwn i beidio â chodi mwy o arian gyda threthiant ar bobl yng Nghymru tra bydd yr economi yn ceisio adfer ar ôl effaith y pandemig. Mae'r straen a'r pwysau ar ein heconomi ni, am yr holl resymau a esboniwyd gennym ni eisoes—effaith y rhyfel yn Wcráin; effaith barhaus ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—yn fy arwain i ddod i'r casgliad y bydd yr amgylchiadau a'n harweiniodd ni i'r casgliad hwnnw wedi cael eu lleddfu.
Ar y mater budd-dal heb ei hawlio, rydym ni'n gwbl awyddus, wrth gwrs, i dynnu i lawr popeth y mae gan deuluoedd Cymru hawl i'w gael. Ac i roi enghraifft arall o hynny, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n credu y gallai hyd at £70 miliwn, ar hyn o bryd, yng Nghymru heddiw, fod heb ei hawlio o gronfeydd ymddiriedolaeth plant. Felly, fe fydd plant yr adneuwyd cronfeydd ymddiriedolaeth plant ar eu cyfer—ac rwy'n gwybod y bydd arweinydd yr wrthblaid yn cofio ein bod ni wedi penderfynu yma yn y Siambr hon i ychwanegu arian at gronfeydd ymddiriedolaeth plant i blant sy'n derbyn gofal, er enghraifft, yng Nghymru—wel, mae'r arian hwnnw wedi gorwedd yno am 18 mlynedd ac fe fydd plant â'r hawl nawr i dynnu allan ohono. Ond am fod y cynllun wedi cael ei derfynu nôl yn 2010 gan Lywodraeth y glymblaid, mae'r cyhoeddusrwydd o amgylch y cynllun wedi lleihau yn sylweddol. Ac mae £70 miliwn eisoes, sydd yno'n aros i gael ei hawlio gan bobl ifanc yng Nghymru, heb gael ei dynnu allan. Felly, mae hi'n amlwg bod yna fwy y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud yn well yn hynny o beth, ac fe fydd hynny'n helpu, fel gwna llawer o'r mesurau a amlinellais i heddiw, gyda materion ynglŷn â thlodi mewn teuluoedd a gyda phlant.
O ran cyfraddau cyflogaeth, mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn uwch na chyfraddau cyflogaeth ledled y Deyrnas Unedig, ac mae'r twf mewn cyfraddau cyflogaeth wedi rhagori ar y twf mewn cyfraddau cyflogaeth ledled y Deyrnas Unedig hefyd. Un o'r heriau gwirioneddol i Lywodraeth y DU sy'n dod i mewn yw bod cyfanswm y gweithlu yn y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn is nag yr oedd cyn i'r pandemig daro. Mae llawer o bobl, am ba reswm bynnag a allai hynny fod, wedi penderfynu peidio â dychwelyd i'r gweithlu, ar ôl cael eu hunain y tu allan iddo o ganlyniad i brofiadau COVID. Wrth gwrs rydym ni'n dymuno sicrhau, yma yng Nghymru, fod menywod a dynion â chyfartaledd o ran y farchnad gyflogaeth, ond fe geir materion mwy sylfaenol ar waith yn hyn o beth. Fe ddechreuodd arweinydd yr wrthblaid drwy gyfeirio at y bwlch cynhyrchiant ac un o'r cyfyngiadau gwirioneddol o ran gallu mynd i'r afael â'r bwlch cynhyrchiant yw'r ffaith nad oes gennym ni weithwyr, digon o weithwyr yn y Deyrnas Unedig, i allu cyflawni'r swyddi sydd ar gael iddyn nhw.