5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 20 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 4:22, 20 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Mae'n rhaid i mi gyfaddef, bu'n rhaid i mi wirio pwy oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am dwristiaeth heddiw, oherwydd y Gweinidog cyllid, unwaith eto, sy'n gwneud cyhoeddiad arall o'r fainc flaen ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â thwristiaeth, yn hytrach na Gweinidog yr Economi sy'n gyfrifol am hynny. Yn wir, nid yw Gweinidog yr Economi, sy'n gyfrifol am y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru, erioed wedi gwneud datganiad llafar yn y Siambr ar gynlluniau ar gyfer y sector ers ysgwyddo'r swyddogaeth. Mae hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gweld twristiaeth yng Nghymru nid fel rhywbeth i'w feithrin, ei amddiffyn a'i wella, ond yn rhywbeth i'w drethu yn lle. Ac mae'r ffaith ein bod yn bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad ar dreth dwristiaeth ond yn sail bellach i hynny.

O ran Llywodraeth Cymru ac ymgynghori i wneud â'r diwydiant twristiaeth, mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid ichi faddau i mi, Weinidog, am beidio â bod yn or-frwdfrydig o ystyried eich hanes yn y maes yma. Dim ond 1 y cant o gyfanswm yr ymatebwyr oedd yn cefnogi'r cynnydd i 182 diwrnod yn yr ymgynghoriad diweddar ar y newidiadau i lety gwyliau, ond fe wnaethoch chi anwybyddu eu barn yn llwyr a bwrw ymlaen gyda'r newidiadau beth bynnag. Sut yn y byd y gall y sector twristiaeth yng Nghymru gael unrhyw ffydd y bydd hwn yn ymgynghoriad teg a gynhaliwyd gan eich Llywodraeth pan fo gennych chi hanes mor wael?

Mae'r diwydiant hwn wedi teimlo ei fod wedi ei anwybyddu gymaint ac wedi ei gymryd yn ganiataol gan y Llywodraeth hon ers cyhyd fel ein bod ni, dros yr haf, wedi gweld sefyllfa chwerthinllyd lle gwaharddwyd Gweinidogion Llywodraeth Cymru rhag ymweld ag un o brif atyniadau twristiaeth Cymru, ogofâu Dan-yr-Ogof, oherwydd hynny. Mewn datganiad a ryddhawyd ganddyn nhw wrth gyhoeddi'r cam digynsail hwn, fe ddywedon nhw, ac rwy'n dyfynnu:

'Oherwydd bod pholisïau gwrth-dwristiaeth a gwrth-Seisnig Llywodraeth Cymru yn cael eu gorfodi ar ddiwydiant twristiaeth Cymru, does dim croeso bellach i aelodau Llywodraeth Cymru yn yr atyniad yma. Bydd eu polisïau yn arwain at orfodi busnesau twristiaeth i gau, a cholli miloedd o swyddi twristiaeth.'

Mae eich tystiolaeth eich hun yn cefnogi hynny. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol rhannol y gwnaethoch chi sôn amdano yn datgan, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae llai o gystadlu yn bosibilrwydd'.

Fe wnaethon nhw gyfeirio hefyd at astudiaeth sy'n datgan yn glir yn y crynhoad fod

'tystiolaeth empirig yr astudiaeth yn awgrymu achos cryf dros drethi llai ar dwristiaid er mwyn gwella cystadleurwydd cyrchfannau twristiaeth a chefnogi'r sector twristiaeth leol.'

Mae hynny yn eich tystiolaeth. Bydd gwir effaith y dreth hon sy'n cael ei chyflwyno yn peryglu bywoliaeth yng Nghymru, gan fod un ym mhob saith swydd—tua 200,000—yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth. Dyma'r polisi anghywir ar yr adeg anghywir. Mae pobl ar draws y byd yn delio gyda chwyddiant mawr a chostau byw uwch. Mae ychwanegu bil arall ond yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd ymwelwyr posib yn dewis cadw draw.

Rydym yn gwybod mai'r sector lletygarwch yng Nghymru'n benodol, sy'n cynnwys twristiaeth, sydd wedi dioddef waethaf o COVID-19 ar ôl cael eu cadw ar gau yn hirach na'u cymheiriaid yng ngweddill y DU. Nid yn unig hynny, ond mae treth o'r fath yn targedu yr union bobl yr ydym ni am eu hannog i ddod i Gymru yn y lle cyntaf. Os yw'r dreth hon, fel sy'n ymddangos yn debygol, yn cymryd ffurf tâl ar ymwelwyr dros nos, rydym yn trethu'r union bobl sy'n gwario'r fwyaf o arian yn ein heconomïau lleol. Ond mae'r sector wedi bod yn dweud hyn wrthych chi drwy'r adeg, Weinidog, a byddan nhw'n dweud wrthych chi eto yn yr ymgynghoriad, ond bydd angen iddyn nhw deimlo fel eu bod nhw wedi cael gwrandawiad. Dywedwch hefyd fod trethi twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, ond o dan 'diben a chwmpas y dreth' yn y ddogfen, mae'n dweud bod rhai cyrchfannau yn defnyddio ardollau ymwelwyr fel dull o gyfyngu neu leihau nifer yr ymwelwyr—sgil-effaith allweddol eich polisi a eglurir yn eich dogfen eich hun mewn du a gwyn.

Ac yn olaf, gan fy mod wedi gofyn dro ar ôl tro yn ystod y datganiadau hyn, rydw i'n dal eto i glywed unrhyw sicrwydd gan y Gweinidog, neu unrhyw un yn Llywodraeth Cymru o ran hynny, y bydd cyflwyno'r dreth hon yn cynyddu gwariant gan gynghorau ar dwristiaeth mewn gwirionedd. Wedi'i gladdu ym mhrint mân yr ymgynghoriad, mewn gwirionedd, yw'r consesiwn gan Lywodraeth Cymru, er y bydd yna ddisgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r refeniw a godwyd trwy ardoll ymwelwyr i ariannu gweithgarwch sydd o fudd i brofiad yr ymwelwyr ac yr ymgynghorir gyda rhanddeiliaid lleol yn y broses hon, na fydd gofynion ffurfiol wedi'u nodi mewn fframwaith cenedlaethol. Felly, dyna ni: rydym ni'n lansio ymgynghoriad ar dreth lle mae gan Lywodraeth Cymru hanes o anwybyddu'r canlyniadau. Bydd yn niweidio busnesau ledled y wlad, yn lleihau cystadleurwydd ac ni fydd hyd yn oed yn gweld unrhyw fudd ariannol i'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio. Siawns nad nawr, Weinidog, yw'r amser i anghofio'r cynllun hwn am byth?