Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 20 Medi 2022.
O'r diwedd holodd gwestiwn yn y frawddeg olaf un. Na, nid dyma'r amser i anghofio'r syniad hwn. Dyma'r amser i lansio ymgynghoriad i ymgysylltu'n eang ac i ystyried cymaint o safbwyntiau â phosib ar y syniad a gyflwynwyd.
Mae hyn yn deillio'n ôl, wrth gwrs, i waith Holtham, a awgrymodd y gallai hyn fod yn faes treth arbennig a fyddai'n addas iawn i Gymru. Cyflwynwyd y syniad eto yn 2017 pan ofynnodd Prif Weinidog Cymru bellach i bobl Cymru am eu syniadau o drethi allai gael eu cyflwyno yng Nghymru, ac ardoll twristiaeth neu ardoll dros nos oedd un o'r syniadau hynny. Cafodd pobl y syniad hwnnw am eu bod wedi ei brofi drostynt eu hunain ac roedden nhw wedi gweld y manteision drostynt eu hunain pan oedden nhw wedi mynd dramor i amryw o wledydd ledled y byd sydd wedi cyflwyno ardoll twristiaeth, ac wedi gwneud hynny gyda llwyddiant a gwneud hynny mewn ffordd y maen nhw'n gallu ail-fuddsoddi yn eu seilwaith twristiaeth lleol i greu'r amodau hynny ar gyfer twristiaeth lwyddiannus, gynaliadwy.
Rwy'n credu bod yna, fel y nodir yn y dogfennau a welwch chi o'ch blaen heddiw, beth wmbreth o fanteision y gellir eu cyflwyno o ganlyniad. Rydym ni wedi gweld buddsoddiad mewn mannau cyhoeddus, er enghraifft, mewn gwledydd sydd ag ardoll twristiaeth, rydym ni wedi gweld buddsoddiad mewn trafnidiaeth leol gynaliadwy. Bydd sawl posibilrwydd, rwy'n credu, i awdurdodau lleol eu hystyried o ran ble mae'r pwysau oherwydd twristiaeth yn eu hardaloedd a sut y gellir lleddfu'r rheini, ond hefyd y ffyrdd y gall y buddsoddiad yn y seilwaith wella'r ardal leol a buddsoddi yn yr amodau hynny sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant.
Rydym ni wedi ymgynghori'n eang yn ystod datblygiad y polisi hwn. Rydym ni wedi ymgysylltu gryn dipyn â'r sector, gyda llywodraeth leol, gyda'r trydydd sector, gyda phob math o bobl a chyrff sydd â diddordeb yn hyn, a byddwn yn gwneud mwy o'r gwaith hwnnw yn y cyfnod sydd i ddod. Byddaf i a'r Aelod dynodedig, Cefin Campbell, yn y gogledd ddydd Gwener, ym Mhortmeirion, yn cynnal digwyddiad bwrdd crwn ar gyfer y sector fel y gallant graffu ar rai o'r cynigion a rhoi eu hymatebion penodol i'r rheini. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn bwriadu cynnal digwyddiadau tebyg i wrando'n uniongyrchol ar farn y rhai fydd â diddordeb yn y cynigion yma.
Mae'n wir y gellir cyflwyno unrhyw dreth am un o ddau reswm. Mae gennych chi drethi ymddygiad, sy'n ceisio newid ymddygiad pobl. Mae gennym ni rai enghreifftiau o'r rhai hynny yr ydym yn eu hystyried yng Nghymru a'n bod eisoes yn gweld y cânt eu gweithredu ar draws y DU. Er enghraifft, yng Nghymru, mae gennym ni'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hynny'n ymwneud â newid arferion a lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Ond wedyn ar yr un pryd, mae gennym ni'r trethi hynny sy'n anelu at godi refeniw. Yn Fenis, er enghraifft, maen nhw eisiau lleihau nifer y twristiaid sy'n ymweld â Fenis oherwydd y pwysau eithafol sydd arnyn nhw. Fodd bynnag, mewn amrywiaeth fawr a bron yn y mwyafrif llethol o feysydd eraill, maent yn cyflwyno'r trethi hyn i godi refeniw i ail-fuddsoddi yn y cymunedau hynny a'r gwasanaethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant. A dyna lle'r ydym ni; dydym ni ddim yn ceisio lleihau nifer y bobl sy'n dod i Gymru, rydym ni'n ceisio cefnogi twristiaeth gynaliadwy lle gall pobl sy'n ymweld â Chymru wneud cyfraniad teg a bach i gynnal a chadw ardaloedd lleol.
Felly, fel y dywedais i, dim ond heddiw yr ydym ni'n lansio'r ymgynghoriad. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod hynny. Rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, fel ar feinciau eraill, i gyd yn manteisio ar eu cyfle i fod yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed rhagor o safbwyntiau wrth i ni symud ymlaen.