Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 20 Medi 2022.
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw, mae o'n ddiweddariad pwysig dros ben. Heb os, dyma ddangos gwerth cydweithio rhwng ein pleidiau pan y gallwn gyflawni polisi o'r fath mewn ychydig fisoedd, a gwneud gwahaniaeth yn syth i ddisgyblion sydd yn eu derbyn a'u teuluoedd. Roedd cyflawni hyn yn flaenoriaeth i ni fel grŵp ac fel plaid yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021. Pan ddechreuwyd trafod cytundeb cydweithio, roeddem ni'n benderfynol bod hwn yn gorfod bod yn ganolog i hynny, a da yw gweld bod y polisi nid dim ond ar bapur, ond ar waith.
Wedi'r cyfan, mae darparu prydau ysgol am ddim yn un o'r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd i fynd i’r afael â thlodi plant a newyn yng Nghymru, drwy wneud yn siŵr bod plant yn cael pryd maethlon ac am ddim fel rhan o’r diwrnod ysgol, ac ymestyn, fel rydych chi wedi sôn heddiw, am gyfnod arall i gynnwys y gwyliau hefyd.
Tra bod Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig yn parhau i flaenoriaethu rhoi mwy o arian ym mhocedi busnesau mawr a’r rhai cyfoethocaf, mae’n dangos yn glir bod ein blaenoriaethau ni’n wahanol yn y Senedd hon a’n bod ni’n barod i gydweithio yma i fynd i'r afael â’r argyfwng.
Gallai’r polisi hwn wneud y gwahaniaeth rhwng plentyn yn mynd i'r gwely yn llwglyd neu beidio. Dyna pa mor bwysig ydy o. A hoffwn heddiw ddiolch o galon i'r rhai sy'n gweithio o fewn awdurdodau lleol ledled Cymru, fel y gwnaeth y Gweinidog, sef y staff arlwyo, y rhai sy'n dosbarthu ac yn cydlynu'r cyflwyno, a chydnabod pa mor bwysig yw hi inni gael hyn yn iawn i'n plant. Mae prydau ysgol am ddim yn gam tuag at wella bywydau pobl a gwneud ein cymunedau yn decach ac yn fwy cyfartal. Ac i ni fel plaid, cam cyntaf tuag at eu cyflwyno i bob oed yw hyn, ac, er mai dim ond prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd sydd yn y cytundeb, parhawn o’r farn y dylid hefyd ymestyn hwn i ysgolion uwchradd. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w flaenoriaethu hyd nes y cawn arlwy cenedlaethol cynhwysfawr sy’n ymestyn i ysgolion uwchradd.
Er y newydd da bod cyflwyno cinio ysgol am ddim wedi dechrau, fel rydych chi wedi sôn, mae yna dal rhai cynghorau sydd ddim cweit wedi cyrraedd y nod, megis Caerdydd ac Abertawe, sydd ar ei hôl hi. Felly, pa gefnogaeth ychwanegol fydd yna yn cael ei rhoi iddyn nhw? Mae Laura Anne Jones hefyd wedi sôn, wrth gwrs, a rydych chi wedi ymateb o ran bwyd maethlon, a da gweld y pwyslais rydych chi'n ei roi o ran y datganiad ac yn eich ymateb ar hynny. Fydd modd cael diweddariad pellach fel ein bod ni'n deall beth ydy'r benchmark hynny ledled Cymru ar y funud o ran—rydych chi'n dweud eich bod chi wedi sôn am y caffael ac ati—inni allu monitro cynnydd o ran mynd rhagddo efo hynny? Oherwydd, yn amlwg, mae hi'n allweddol bwysig o ran economi lleol hefyd o ran sicrhau bod mwy o ddosbarthu a chynhyrchu bwyd lleol yn rhan o hyn, yn rhan o'n hagenda argyfwng hinsawdd ni hefyd, heb sôn am dyfu yn lleol a chefnogi busnesau lleol. Mae hynny'n bwysig iawn.
Ac yn olaf, hoffwn holi pa waith sydd yn mynd rhagddo o ran adolygu’r fframwaith cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc. Fel y canfu adolygiad tlodi plant Llywodraeth Cymru, nid yw pawb sydd angen prydau ysgol am ddim yn eu derbyn. Onid yw’n hanfodol ein bod yn ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim, a hynny ar fyrder, yn sgil yr argyfwng costau byw? Diolch.