1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae ymwybyddiaeth gynyddol—. Mae'n ddrwg gennyf.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau allyriadau carbon yng Nghymru? OQ58380
Diolch. Y llynedd, gwnaethom gynyddu ein huchelgais i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, a chyn COP26 y llynedd, gwnaethom gyhoeddi Cymru Sero Net, ein cynllun lleihau allyriadau yr ydym yn awr yn gweithio ar ei gyflawni, a’n cynllun presennol ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd, ’Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd'.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Ymddiheuriadau, credaf fy mod wedi cyffroi i fod yn ôl ar gyfer y diwrnod cyntaf yn swyddogol, neu'r ail ddiwrnod.
Mae ymwybyddiaeth gynyddol fod ein diet a'n dewis o fwyd yn cael effaith sylweddol ar ein hôl troed carbon. Cludo, pecynnu a phrosesu bwyd sydd i gyfrif am 6 y cant o allyriadau carbon o wledydd cyfoethog, felly mae prynu bwyd a gynhyrchir yn lleol yn golygu allyriadau is. Yn ddiweddar, rydych wedi cyhoeddi dau gynllun newydd—cynllun grantiau bach ar gyfer creu coetir, y grant creu coetir, gyda £32 miliwn o gyllid i ffermwyr a thirfeddianwyr ar gyfer plannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd hwn. Nawr, mynegwyd pryderon y gallai annog plannu coed amharu ar allu ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd, felly hoffwn ofyn, Ddirprwy Weinidog, sut y bydd y cynlluniau hyn yn sicrhau y bydd y gwaith o gynyddu gorchudd coed, drwy gynyddu'r nifer o goed yng Nghymru, yn digwydd ar dir a nodir fel tir llai cynhyrchiol yn hytrach nag ar dir o ansawdd uchel, a chynnal cynhyrchiant bwyd lleol drwy hynny.
Diolch. Fel y gwyddoch, y targed o 86 miliwn o goed yw’r hyn sydd angen i ni ei blannu i gyflawni ein targedau allyriadau carbon fel y’u nodir gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, corff annibynnol. Rydym oll yn cytuno ar sail drawsbleidiol i gyflawni sero net. Rydym yn cymeradwyo gwaith comisiwn y DU ar y newid yn yr hinsawdd. Yn syml, mae hyn yn nodi'n ymarferol yr hyn y bydd hynny'n ei olygu. Cychwynnwyd archwiliad dwfn gennym flwyddyn yn ôl bellach i ddeall pam nad ydym wedi bod yn cyflawni ein targedau plannu coed, a gwnaethom bennu cyfres o gamau ymarferol, a gynhyrchwyd ar y cyd â’r gwahanol sectorau, i nodi sut y gwnawn hynny, ac mae hynny’n cynnwys cynllun ffermio cynaliadwy newydd y mae fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, wedi’i gyhoeddi, ac mae hwnnw'n nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’r gymuned ffermio i gyflawni'r targedau hynny.
Mae dweud ei fod yn un peth neu'r llall yn ddeuoliaeth ffug; fod coed yn cael eu plannu ar draul tyfu bwyd. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Ac rydym yn awyddus i weithio ar egwyddor y goeden iawn yn y lle iawn, yn sicr, ond hefyd, plannu ar berthi ac ymylon ffermydd, lle mae ffermwyr yn barod i blannu coed a lle nad yw hynny'n disodli eu prif weithgarwch. Yn gyffredinol, er mwyn cyflawni targedau’r pwyllgor newid hinsawdd, mae angen newid oddeutu 10 y cant o ddefnydd tir. Felly, fe fydd newidiadau, oherwydd heb y newidiadau hynny, yn syml iawn, ni fydd y sector ffermio yn wydn. Ni fyddant yn gallu cynhyrchu'r bwyd y mae pob un ohonom yn dibynnu arno gan y bydd y newid yn yr hinsawdd yn amharu arnynt. Felly, mae er lles pob un ohonom i fynd y tu hwnt i'r penawdau, i roi'r rhaniadau o'r neilltu a chydweithio i gyflawni rhywbeth a all gyflawni ein nodau cyffredin.
Un dull sydd wedi cael ei ddefnyddio yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau, wrth gwrs, yw i gyflwyno cyfyngiadau cyflymder ar amryw ffyrdd yng Nghymru. Nid yn unig mae hynny yn dod â budd amgylcheddol, mae hefyd yn dod â budd o safbwynt diogelwch i drigolion yn y cyffiniau hynny. A dwi eisiau amlygu i chi, os caf fi, fod ymgyrch wedi'i lansio ym mhentref Glasfryn ger Cerrigydrudion i gyflwyno cyfyngiadau cyflymder yno. Os teithiwch chi ar yr A5 o Fangor yr holl ffordd i'r Amwythig, Glasfryn yw'r unig bentref ar y siwrnai yna lle does yna ddim cyfyngiadau o safbwynt cyflymdra, er bod yna gyffyrdd prysur yn y pentref, er bod yna dai fetr neu ddau un unig o ymyl y ffordd. Yn wir, yr hyn welwch chi pan fyddwch chi'n cyrraedd y pentref yw arwyddion yn nodi terfyn cyflymder cenedlaethol, sydd, i bob pwrpas, wrth gwrs, yn atgoffa ac yn annog gyrwyr i yrru 60 milltir yr awr, sy'n gwbl annerbyniol.
A gaf fi felly eich gwahodd chi, Ddirprwy Weinidog, i gwrdd â'r ymgyrchwyr lleol, o dan arweiniad y Cynghorydd Gwennol Ellis, naill ai fan hyn yng Nghaerdydd neu, gorau oll, pan ddowch chi i'r gogledd, a bod yna gyfle i chi ddod i Glasfryn i weld eich hunan y sefyllfa yna ac i ddeall, os medrwch chi, pam y mae hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hyn ar unwaith?
Wel, wrth gwrs, rydym yn cymryd camau i ostwng terfynau cyflymder. Bydd gan bob ffordd lleol derfyn cyflymder diofyn o 20 mya o fis Medi nesaf, gyda’r gallu i awdurdodau lleol ddarparu ar gyfer eithriadau i’w cadw ar 30 mya. A bydd hynny, heb os, yn cael effaith ganlyniadol ar ymdeimlad pobl o gyflymder ar ffyrdd eraill. Felly, byddwn hefyd yn edrych ar ein polisi gosod terfynau cyflymder lleol. Hefyd, rydym wedi cyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ein bod bellach wedi derbyn adroddiad llawn y panel adolygu ffyrdd, y byddwn yn ei archwilio dros y misoedd nesaf, gyda swyddogion yn edrych yn fanwl ar bob un o'r llu o argymhellion a wnaethant, ac yn sicr, mae terfynau cyflymder yn ganolog i'w dadansoddiad o'r hyn y mae angen inni ei wneud, er mwyn cyflawni ein hamcanion o ran allyriadau carbon ond hefyd i achub bywydau.
Yn amlwg, cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw ffyrdd lleol. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r cefnffyrdd. Ac rwy'n cydnabod bod enghreifftiau i'w cael lle mae'r gymuned yn teimlo bod cyflymder ffyrdd yn rhy gyflym, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried fel rhan o'n pecyn cyffredinol i newid dulliau teithio.
Yr ail gwestiwn i'w ateb y prynhawn yma gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, ac i'w ofyn gan Rhys ab Owen.