Help i Denantiaid

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:10, 21 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Ers mis Tachwedd 2021, rydym wedi cyhoeddi cyllid o £380 miliwn i helpu aelwydydd Cymru i reoli'r argyfwng costau byw. Mae Cynllun Lesio Cymru yn gwella mynediad at dai yn y sector rhentu preifat fforddiadwy mwy hirdymor. Mae cronfa atal digartrefedd ychwanegol gwerth £6 miliwn wedi cael ei darparu i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gynnal tenantiaethau pobl ac osgoi digartrefedd.