Help i Denantiaid

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:11, 21 Medi 2022

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am gamu i mewn, munud olaf. Gaf i innau estyn fy nymuniadau gorau i'r Gweinidog am wellhad buan hefyd?

Mae tenantiaid a chymdeithasau tai fel ei gilydd yn hynod o bryderus am y misoedd nesaf ac yn ei chael hi'n anodd i flaengynllunio ac i gyllido heb fod ganddynt sicrwydd o beth fydd cyfraddau budd-daliadau. Mae'r synau mae'r Prif Weinidog newydd, Liz Truss, wedi eu gwneud dros yr haf yn sôn am dorri i lawr ar fudd-daliadau, ac mae hynny yn hynod o bryderus, yn enwedig gan fod rhenti yn cael eu talu drwy'r system credit cynhwysol, ac wrth gwrs mae'r LHA wedi cael ei rhewi ers 2020. Pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi eu cael efo'r ysgrifennydd newydd dros waith a phensiynau yn Llundain? Ac a ydych chi wedi dwyn pwysau arni hi a'r Prif Weinidog newydd i sicrhau bod lefelau budd-daliadau yn cynyddu er mwyn cyfarch y cynnydd yn y costau byw, yn enwedig rhenti, a'u bod nhw hefyd yn cynyddu lefelau y lwfans tai lleol?