Gwaith Deuoli'r A465

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:13, 21 Medi 2022

Diolch, Dirprwy Weinidog. Ar 8 Awst, fe fynychais gyfarfod cyhoeddus yn Hirwaun wedi'i drefnu gan gynghorwyr lleol, Karen Morgan ac Adam Rogers. Roedd yn glir bod y gwaith yn cael effaith mawr ar unigolion a busnesau, ac er bod cydnabyddiaeth o'r effaith gan Future Valleys Construction a chyngor Rhondda Cynon Taf, roedd yn amlwg nad oedd datrysiadau tymor byr i'r problemau a godwyd, gan gynnwys pryderon mawr o ran diogelwch yn sgil cynnydd mewn damweiniau yn yr ardal oherwydd y gwaith. Gaf i wahodd y Dirprwy Weinidog i ymweld â'r ardal a chwrdd â chynghorwyr lleol a thrigolion i weld effaith y gwaith—gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Llywodraeth—a gweithio gyda Future Valleys Construction, trwy Trafnidiaeth i Gymru, i ganfod datrysiadau brys cyn bod rhywun yn cael ei anafu'n ddifrifol neu ei ladd mewn damwain, a chyn i fusnesau yn yr ardal fynd i'r wal oherwydd effaith y gwaith ar eu busnesau?