Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 21 Medi 2022.
Wel, rwy'n cydnabod yn llwyr fod cynlluniau ffyrdd mawr fel hyn yn aflonyddgar. Maent yn swnllyd. Maent yn achosi niwed i'r amgylchedd. Maent yn creu allyriadau sylweddol. Mae'n un o'r rhesymau pam ein bod yn adolygu ein hymagwedd tuag at adeiladu ffyrdd. Os caf nodi un pwynt a wnaeth Heledd Fychan am y ffordd a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, rwy'n meddwl mai Ieuan Wyn Jones a'i comisiynodd pan oedd yn Weinidog trafnidiaeth yn ystod y Llywodraeth glymblaid, felly nid wyf yn meddwl ei bod hi'n deg ichi wneud yr ensyniad a wnewch. Mae'n cael ei arwain, fel y gwyddoch, gan gonsortiwm, consortiwm Cymoedd y Dyfodol, ac maent yn ein sicrhau bod ganddynt gyfres gyfan o fesurau ar waith i gysylltu â'r gymuned leol, mae ganddynt ystod o weithgareddau ymgysylltu, mae ganddynt gyrhaeddiad mawr ar y cyfryngau cymdeithasol lle byddant yn hysbysu pobl pan fydd ffyrdd yn cael eu cau. Ceir swyddog allgymorth cymunedol gyda rôl i gyfarfod â thrigolion a chynghorwyr cymuned sydd â phryderon, a dyna'r lle cywir i leisio pryderon. Os nad ydych yn teimlo eich bod yn cael atebion boddhaol, ar bob cyfrif cysylltwch â mi eto, ond dyna ddylai fod yn fan cychwyn.
Fel y dywedais, mae angen inni feddwl yn galed iawn am y cynlluniau ffyrdd mawr, drud ac anodd hyn ac a yw parhau i wneud yr hyn yr ydym bob amser wedi'i wneud yn mynd i gynhyrchu'r canlyniad y mae pawb ohonom eisiau ei weld os ydym am gyflawni sero net ac os ydym am sicrhau llesiant yn ein cymunedau.