1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
8. Pa bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sydd ar waith i ddiogelu coetiroedd hynafol? OQ58392
Diolch. Mae ein polisïau cynllunio yn gosod fframwaith cryf ar gyfer gwarchod coed, gan gynnwys coetiroedd hynafol. Rydym yn diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 i ddarparu gwell amddiffyniad i'r amgylchedd a dull mwy effeithiol o atal torri coed yn anghyfreithlon. Bydd ein cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi cymorth i warchod a rheoli coetiroedd hynafol.
Diolch am yr ateb hwnnw. Cafodd y mater yr wyf am ei godi ei grybwyll yng nghwestiynau'r llefarwyr. Mae bob amser yn dda gweld llefarwyr ar ran y pleidiau yn cymryd rhan, ni waeth pa mor fach, yng ngwaith Aelodau a etholir yn uniongyrchol. Dros yr haf, dychrynodd trigolion Llanbradach yn fy etholaeth wrth weld bod contractwyr wedi dechrau cloddio tir ar safle a elwir yn goedwig clychau'r gog yn lleol. Bu'r ardal hon yn bwysig iawn i'r gymuned leol ers cenedlaethau ac mae'n dal i fod yn bwysig i lawer o bobl. Dechreuodd y gwaith cloddio heb ganiatâd cynllunio, ac yn dilyn ymgyrchu cymunedol cafodd ei atal ar orchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Fodd bynnag, mae trigolion yn ofni y gallai'r gwaith ddechrau eto ar unrhyw adeg os na cheir digon o amddiffyniadau ar waith, yn enwedig gan fod y tir mewn dwylo preifat. A wnaiff y Gweinidog roi gwybod felly pa opsiynau sydd ar gael i'r gymuned leol i geisio sicrhau bod y goedwig yn cael ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Diolch. Gwn fod pryder ar draws y gymuned yn Llanbradach a Chaerffili ynglŷn â dinistrio coetir clychau'r gog, ac roedd gweld rhai o'r lluniau'n peri gofid. Yn fy marn i, y peth mwyaf cadarnhaol ynglŷn â hyn yw'r ffaith bod yr ymateb cymunedol mor gryf, gan eu bod yn deall gwerth bioamrywiaeth i'w hardal. Rwy'n meddwl bod gennym dipyn o ffordd i fynd i wneud yn siŵr fod datblygwyr hefyd yn deall y gwerth.
Rwy'n credu bod ein fframwaith polisi yn gryf; mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi'n glir y dylai awdurdodau cynllunio ddiogelu coetiroedd hynafol, coetiroedd lled-naturiol, a hen goed unigol a choed hynafol. Mae cyngor sefydlog CNC i'r awdurdodau hefyd yn ei gwneud hi'n glir y dylid gwrthod caniatâd cynllunio os byddai'r datblygiad yn arwain at golli neu ddirywiad coetir hynafol, oni bai bod rhesymau cwbl eithriadol. Yn yr achos hwn, rwy'n credu bod camau wedi'u cymryd i glirio'r tir cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio, ac mae camau gorfodi ar y gweill gan yr awdurdod lleol. Felly, rwy'n credu y dylwn dalu teyrnged i arweinydd ac aelod cabinet cyngor Caerffili a'r cyngor cymuned am weithredu cryf pan ddaethant yn ymwybodol fod y dinistr hwn wedi digwydd. Gall y gymuned ofyn am wneud gorchmynion cadw coed ar goed y maent yn eu hystyried yn werthfawr, ond rwy'n credu bod hon yn enghraifft o ble mae'n bwysig ein bod i gyd yn dod at ein gilydd i wneud yn siŵr fod camau llym yn cael eu rhoi ar waith yn sgil unrhyw dramgwyddo, a'n bod yn gwella lefel ein gwerthfawrogiad o goetiroedd hynafol fel na cheir gweithredu o'r fath yn y lle cyntaf.
Hoffwn yn fawr gael help Llywodraeth Cymru i warchod y coetir hynafol ym mharc arfordirol Penrhos yng Nghaergybi. Cafwyd caniatâd tua degawd yn ôl i adeiladu parc gwyliau yno; nid wyf yn credu y dylid bod wedi rhoi caniatâd bryd hynny, ac yn sicr bellach, yng nghyd-destun ein dealltwriaeth newydd o ddyfnder yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth a gwerthfawrogiad o fannau cyhoeddus gwyrdd, mae'n sicr yn teimlo'n anghywir. Nawr, hoffwn longyfarch y Gweinidog materion gwledig ar ei rôl estynedig, sy'n cynnwys, ac rwy'n dyfynnu: ansawdd yr amgylchedd lleol; diogelu a rheoli bywyd gwyllt; rhandiroedd a seilwaith gwyrdd trefol; mannau gwyrdd cymunedol; mynediad at gefn gwlad; arfordiroedd; hawliau tramwy; ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Mae'n swnio fel disgrifiad o weinidog ar gyfer Penrhos. Felly, Ddirprwy Weinidog—byddai'n haws pe bawn i'n gofyn y cwestiwn hwn i'r Gweinidog ei hun—ond sut y gallwch chi weithio gyda hi i wneud yn siŵr fod modd gwarchod y coetir hynafol hwn, yr unig goetir o'i fath ger Caergybi?
Wel, rwy'n credu ei bod hi'n anodd pan fo awdurdodau lleol wedi rhoi caniatâd cynllunio, ac fel y dywedoch chi, roedd hyn beth amser yn ôl. O ystyried y fframwaith polisi a nodwyd gennyf, hoffwn feddwl na fyddai hynny'n digwydd pe bai caniatâd cynllunio yn cael ei roi o'r newydd heddiw. Mae'r hyn y gallwn ei wneud yn ôl-weithredol yn amlwg yn gwestiwn mwy cymhleth, ac yn sicr yn un y byddwn yn ei annog ef i'w drafod gyda'i gyngor ei hun ar Ynys Môn. Ac yn sicr fe fyddem yn agored i gael sgwrs. Mae'r rhain yn benderfyniadau dyrys, onid ydynt? Ond rwy'n credu mai'r broblem sy'n ein hwynebu i gyd yw y gall datblygwyr yn aml wneud dadleuon eithriadol mewn achosion penodol, ond mae'r effaith gronnus yn un sylweddol, ac rydym yn wynebu nid yn unig argyfwng hinsawdd ond argyfwng natur hefyd. O ran penderfyniadau unigol, mae'r rhain yn aml yn gymhleth ac weithiau'n ddyrys. Felly, mae arnaf ofn nad oes gennyf ateb rhwydd iddo heddiw, heblaw fy mod yn credu ei fod yn nodi cyfres o bwyntiau rhesymol y mae angen inni eu hystyried gyda'r awdurdod lleol i weld beth yw'r opsiynau posibl.