Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch. Nid wyf yn ymwybodol fod y Gweinidog yn edrych ar unrhyw beth. Byddwn yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu ati. Ond credaf fod y pwynt a godwch yn bwysig iawn. Os edrychwch ar broses y cynlluniau datblygu lleol, er enghraifft, mae'n dryloyw iawn, ac mae angen iddi gael yr ymwneud cymunedol hwnnw. Byddwn yn disgwyl y byddai’r Gweinidog yn awyddus iawn i gynyddu cyfranogiad y gymuned. I ddychwelyd at eich cwestiwn cyntaf ynglŷn â'r argyfwng natur, y peth olaf y byddem yn dymuno'i weld yw ardal fel yr un a ddisgrifiwch yn cael ei dinistrio.