11. Dadl Plaid Cymru: Costau byw

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:35, 21 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r mesurau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel y cyfeirir atynt yn eu gwelliannau i'w croesawu wrth gwrs. Bydd rhai, fel prydau ysgol am ddim, yn drawsnewidiol. Ond mae angen gwneud llawer mwy; crafu'r wyneb yn unig y bydd rhai o'r pethau hyn. Clywsom y Prif Weinidog ddoe yn cyhoeddi un mesur newydd yn unig, cefnogaeth i fanciau cynhesu, ac yn mynnu na ddylai ymdrechion ganolbwyntio ar ariannu cynlluniau newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn ond yn hytrach ar sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn manteisio ar y cynlluniau sydd eisoes ar gael. Pwrpas ein cynnig, a basiwyd cyn y toriad, ar wneud y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn addas i'r diben oedd tynnu sylw at yr angen hanfodol i'r cymorth sydd ar gael gyrraedd pocedi'r bobl sy'n gymwys i'w gael.

Roedd y data a gyhoeddwyd yn ddiweddar mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch darparu taliadau o dan y cynllun hwn, a fydd yn dechrau eto'n fuan, yn rhestru taliadau a wnaed gan awdurdodau lleol ond ni chynigiai unrhyw gyfeiriad naill ai at gyfran yr aelwydydd cymwys sy'n derbyn y taliadau neu os oedd gan unrhyw rai o'r aelwydydd hynny nodweddion gwarchodedig. Hoffwn wybod sut a phryd y cynhaliwyd yr adolygiad o'r rownd ddiwethaf, y cefais sicrwydd gan y Prif Weinidog ei fod wedi digwydd pan ofynnais iddo ddoe. Pa wersi hollbwysig a ddysgwyd er mwyn sicrhau bod help yn cyrraedd y rhai sydd ei angen?

Fe'i gwneuthum yn glir yn gynharach nad trychineb sydyn yw hwn. Mae un o bob tri o'n plant wedi bod yn byw mewn tlodi dros y ddau ddegawd diwethaf, y lefel uchaf o holl wledydd y DU, a ni oedd yr unig wlad yn y DU i weld tlodi plant yn codi yn lle gostwng dros gyfnod y pandemig. Yn ogystal â'r ffactorau y cyfeiriais atynt eisoes sydd wedi cyfrannu at y sefyllfa enbyd hon, rhaid tynnu sylw at syrthni ac annigonolrwydd Llywodraethau olynol yng Nghymru i fynd i'r afael â lefelau cywilyddus o dlodi, a adawodd aelwydydd Cymru mor agored i niwed yn wyneb y storm sydd bellach wedi cyrraedd. Yn ôl yn 2009, dywedodd Victoria Winckler o Sefydliad Bevan, mewn ymateb i ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree ar yr hyn yr oedd ei angen i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ac rwy'n dyfynnu:

'Dylid ystyried y cyfle i Lywodraeth Cynulliad Cymru geisio rhagor o bwerau deddfwriaethol i fynd i'r afael â thlodi plant.'

Gadewch inni atgoffa ein hunain mai Llywodraeth Lafur oedd mewn grym yn San Steffan ar y pryd. Gadewch inni atgoffa ein hunain mai yn 2009 y dywedwyd hynny. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael cyfle i greu newid, ac eto wedi llusgo eu traed. A nawr, yn 2022, mae ein pobl yn wynebu'r gaeaf caletaf ers i'n gwlad gael Llywodraeth Cymru i'w gwasanaethu a'u cefnogi. Y casgliad rhesymegol ehangach i ddod o'n cynnig ni heddiw yw bod angen mwy o rym ar Gymru i amddiffyn ei phobl. Hyd yn oed gyda'r holl fesurau a gyhoeddwyd, mae degau ar filoedd o bobl yng Nghymru yn dal i wynebu gaeaf o fynd heb bethau hanfodol fel bwyd neu'r gallu i ymolchi â dŵr poeth, neu orfod benthyg arian ar gyfraddau llog cynyddol er mwyn talu costau byw cynyddol. Os ydych chi'n cydnabod yr argyfwng hwn, pleidleisiwch dros ein cynnig. Pleidleisiwch dros ein cynnig os ydych yn credu y gallwn ni, drwy basio'r gyfres o fesurau brys yr ydym yn galw amdanynt, sicrhau bod gan bobl arian yn eu pocedi pan fydd ei angen arnynt a bod rhagor o ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru helpu'r bobl y mae i fod i'w gwasanaethu yn wyneb y biliau cynyddol hyn, cyflogau disymud, toriadau creulon i les a chynnydd uwch nag erioed mewn prisiau bwyd a hanfodion.

Gall hyn olygu edrych eto ar gyllidebau adrannol. Rwy'n credu bod maint yr argyfwng yn galw am wneud hynny. Rydym yn awgrymu y dylid ystyried camau eang, nifer ohonynt yn gamau y mae Llywodraethau eraill yn eu gweithredu—capio costau trafnidiaeth, rhewi rhenti, gwahardd troi allan yn y gaeaf. Pleidleisiwch dros ein cynnig os ydych yn cytuno mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw gweithredu'n gymesur â maint yr argyfwng, yn gyfannol ac yn gyflym. Bydd fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru'n amlinellu pam ein bod yn galw am y mesurau penodol, a da o beth fyddai clywed barn yr Aelodau ar y mesurau a'r awgrymiadau hyn ar gyfer camau pellach y gellid eu cymryd. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ac rwy'n eich annog i ddangos i'ch etholwyr fod eu Senedd yn eu clywed ac y bydd yn eu cefnogi.