Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pwrpas cynnig Plaid Cymru heddiw a'n dadl gyntaf yn y tymor newydd hwn yw amlygu'r angen am weithredu pellach ar unwaith ac ar frys gan Lywodraeth Cymru ar yr argyfwng costau byw i gefnogi pobl Cymru sy'n wynebu caledi a ddisgrifiwyd gan nifer o bobl sy'n gweithio ym maes tlodi fel 'tlodi Fictoraidd'. Mae'n argyfwng wrth gwrs, ond mae'n argyfwng a fu'n datblygu ers amser maith—nid daeargryn economaidd sydyn mohono. Mae Brexit, pandemig COVID-19, geowleidyddiaeth a rhyfel wedi chwarae eu rhan wrth gwrs, fel y mae polisïau cyni creulon y Ceidwadwyr, polisïau a orfodwyd ar ein pobl gan Lywodraeth San Steffan na wnaethant bleidleisio drostynt.
Mae pobl Cymru'n dioddef oherwydd bod y prif ddulliau a'r adnoddau a allai helpu i ddiogelu teuluoedd Cymru yn dal i fod yn San Steffan, ac nid yw'n syndod fod y mesurau a amlinellwyd hyd yma gan Lywodraethau'r Torïaid yn Llundain dan Johnson a Truss yn gwbl annigonol a heb fod wedi eu targedu'n ddigonol at y rhai sydd fwyaf mewn angen. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod hwn yn argyfwng go iawn. Fe wyddoch fod yr economi mewn trafferth pan fo hyd yn oed cyflogwyr pobl sydd ar gyflogau uchel yn pryderu am eu staff. Bydd Lloyd's of London yn talu £2,500 yn ychwanegol i staff sydd ar gyflog sylfaenol o £75,000 y flwyddyn i helpu i dalu am gostau byw cynyddol.
Mae'r cynnydd a welsom mewn biliau ynni, sy'n golygu y bydd biliau cyfartalog ar lefel o £2,500 y flwyddyn, 'yn annormal' fel y gwnaeth pennaeth National Energy Action Cymru, Ben Saltmarsh, ei ddisgrifio'n gryno pan ddaeth newyddion o'r diwedd am rywfaint o weithredu gan San Steffan. Mae'r biliau hyn ddwywaith cymaint â'r hyn a oeddent flwyddyn yn ôl, ac yn gwbl anghynaladwy. Nid yw'r gwaith ar ben. Ac mae'n rhaid cofio hefyd nad cap yw hwn—nid yw'n derfyn ar faint fydd eich bil. Bydd llawer o aelwydydd yn wynebu biliau uwch na hyn. Os ydych yn anabl, er enghraifft, bydd costau byw cynyddol yn effeithio arnoch yn anghymesur oherwydd eich bod yn fwy tebygol o fod ar incwm is, gyda chostau byw uwch ac angen trafnidiaeth hygyrch, deiet arbenigol, a bod gennych gostau uwch am nwy a thrydan i gadw'ch tymheredd yn sefydlog ac i bweru offer hanfodol. Ac nid oes gennych ddewis ynglŷn â diffodd peiriant anadlu neu beidio â phweru chyfarpar codi.
Grŵp arall sy'n cael eu taro'n galed yw meddygon, nyrsys, athrawon, peirianwyr a gwyddonwyr y dyfodol, ein dysgwyr a'n myfyrwyr. Bydd Heledd Fychan yn siarad am yr angen i gynyddu lefel y lwfans cynhaliaeth addysg i'w cefnogi. Ac fel llefarydd Plaid Cymru dros addysg ôl-16, rwyf am godi llais dros y 92 y cant o fyfyrwyr Cymru sydd wedi dweud wrth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr eu bod yn pryderu ynglŷn â'u gallu i ymdopi'n ariannol. Mae 11 y cant ohonynt yn defnyddio banciau bwyd. Mae rhent myfyrwyr wedi codi 29 y cant yng Nghymru yn ystod y tair blynedd ddiwethaf ac nid yw cymorth cynhaliaeth yn cadw gyfuwch â chwyddiant. Byddai rhewi rhenti ar draws pob sector yn helpu i fynd i'r afael â hyn. Mae myfyrwyr hefyd wedi wynebu loteri cod post o ran gallu cael ad-daliad y dreth gyngor ar gyfer costau byw oherwydd anghysondeb yn y ffordd y mae awdurdodau lleol wedi dosbarthu'r cymorth.