Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 21 Medi 2022.
Nid yw argyfyngau'n cilio pan fo'n anghyfleus iddynt barhau. Os ydym yn eu hanwybyddu, nid ydynt yn diflannu, ac nid yw'r argyfwng costau byw yn argyfwng sydd wedi pylu yn ei arwyddocâd, fel y gwnaeth un darlledwr ei roi, oherwydd digwyddiadau'r wythnos diwethaf, ac ni fu toriad yn y cythrwfl a'r panig a deimlid gan bobl ledled y DU pan roddodd Llywodraeth San Steffan doriad iddi hi ei hun dros yr haf. Na, mae argyfyngau'n difa popeth.
Mae pobl yn siarad am y gaeaf o anniddigrwydd, ond yr hyn a gawsom yn yr argyfwng hwn sy'n difa popeth yw haf o anwybyddiad, o ddifaterwch ar ran y rhai sydd mewn grym, haf o Gabinet absennol, ac un Prif Weinidog baeddedig yn trosglwyddo pŵer i un arall cwbl amhrofedig a wrthododd ddweud wrthym am fisoedd sut y byddai'n ymdrin â'r argyfwng hwn.
Ond yn awr, o'r diwedd, rydym yn gwybod sut y mae Truss yn bwriadu cadw'r bobl fwyaf enbyd eu byd yn fyw dros y gaeaf, oni bai, wrth gwrs, eu bod yn digwydd bod yn ddigon anffodus i fod â mesuryddion talu ymlaen llaw neu fod oddi ar y grid nwy. Bydd biliau i bawb arall yn cael eu rhewi ar lefel arteithiol a fydd yn gwthio pobl i ddyled echrydus. Mae tlodi, tlodi go iawn, wrth y drws i filoedd o bobl.
Os na chaiff y cap prisiau ei dynnu'n ôl i lawr i'r lefelau a welwyd cyn mis Ebrill fel yr argymhellwyd gennym, fe welwn farwolaethau y gellid bod wedi'u hosgoi. Am hynny y soniwn yma mewn gwirionedd, ac nid yn unig y mae'r cap hwn yn rhy uchel, mae'r ffordd y mae Truss wedi penderfynu y bydd yn cael ei ariannu yn llechgïaidd. Bydd cwmnïau ynni sydd wedi gwneud biliynau o elw anhaeddiannol dros ben yn cadw'r elw hwnnw. Ni fyddant yn wynebu treth ychwanegol. Yn hytrach, bydd trethdalwyr yn sybsideiddio'r biliau. Byddwn ni'n dal i dalu drwy ein trwynau, ond dros gyfnod hirach. Mae'r cyfoeth sydd ar y brig, y cyfoeth anfoesol, trachwantus hwnnw, yn aros yn gyfan, heb ei gyffwrdd, heb ei gyrraedd gan y bobl ar y gwaelod.
A oes unrhyw ryfedd fod pobl yn dweud, 'Digon yw digon'? Digon o'r system ben-i-waered hon lle mae San Steffan yn ffafrio atebion hawdd tymor byr fel ffracio er mwyn cynnal y foment hon mewn amser a'r ddogn honno o arian ar gyfer y cyfranddalwyr, y gwneuthurwyr arian amheus hynny nad oes neb yn eu gweld, heb unrhyw ystyriaeth o'r dyfodol, yr awyr y maent yn ei llygru, y ddaear y maent yn ei gwenwyno. Maent wedi methu cynnal y cyflenwadau nwy sydd eu hangen arnom oherwydd yr obsesiwn â'r presennol, a gwneud cymaint o arian â phosibl tra gallant, heb unrhyw ystyriaeth o'r hyn sy'n digwydd pan fydd ddaw'r cyfan i ben.
Mor wahanol y gallai pethau fod wedi bod i Gymru pe bai morlyn llanw bae Abertawe wedi cael caniatâd? Gyda phwerau dros gynhyrchu ynni, gydag elw o Ystad y Goron, mor wahanol y gallai pethau edrych pe bai gennym system a fyddai'n buddsoddi elw yn ein dyfodol cyfunol, yn hytrach na'i gloi allan o gyrraedd? Yn lle hynny, wrth gwrs, bydd yr aelwydydd cyfoethocaf yn cael dwywaith cymaint o help o gymharu â'r rhai tlotaf, ac wrth gwrs, mae Cabinet Truss yn bachu ar y cyfle hwn i danseilio sero net—unrhyw beth sy'n cadw'r peiriant arian i droi ar gyfer y cyfoethocaf. Maent yn gwbl fyddar i'r cyfan arall.
Felly, nid yw'r sgrech o ofn, y waedd o ofid a leisir gan filiynau o bobl erioed wedi'u cyffwrdd hwy, ac maent yn fyddar i apeliadau ein planed. Ond Ddirprwy Lywydd, ni fydd y trychineb hinsawdd yn cilio tra bydd y biliwnyddion yn mynd yn gyfoethocach ychwaith. Os ydym yn anwybyddu hwnnw, ni fydd yn diflannu. Dyma'r adeg i ddod â chwmnïau ynni i ddwylo cyhoeddus, i fuddsoddi mewn ynni gwyrdd, i inswleiddio ein cartrefi, i achub ein planed, i gryfhau ein dyfodol. Dyma'r adeg i feddwl yn radical, gostwng costau trafnidiaeth gyhoeddus, hepgor ôl-ddyledion y dreth gyngor, rhewi rhenti, a helpu pobl i aros yn fyw. Oherwydd mae argyfyngau'n difa popeth, fel fflamau, ac os nad ydym yn eu diffodd yn gyflym, ni fydd y creithiau y byddant yn eu gadael byth yn gwella.