Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 21 Medi 2022.
Mae’r argyfwng sydd yn ein hwynebu ni yn un anferthol. Mae chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac wedi chwalu pob rhagamcan a gafwyd gan economegwyr, ac mae’r rhagolygon yn dangos y bydd o’n cynyddu hyd yn oed yn fwy. Mae prisiau ynni wedi chwyddo i lefelau cwbl anghynaliadwy i’r rhan fwyaf o bobl, ac mae’r cynnydd yn y pris ynni yn cael ei adlewyrchu yn y cynnydd ym mhris bwyd, pris trafnidiaeth a phrisiau pethau eraill. Mae hyn oll yn dod ar ben degawdau o gyflogau’n aros yn llonydd, neu yn methu cadw i fyny â chwyddiant, 10 mlynedd o gyni o du Torïaid ciaidd San Steffan, a chwtogi cyson ym mudd-daliadau rhai o’r pobl mwyaf bregus.
Yn ôl Sefydliad Bevan, mae tua 180,000 o aelwydydd yma yng Nghymru bellach yn methu â fforddio rhai o bethau mwyaf elfennol bywyd: gwres, bwyd neu nwyddau ymolchi, heb sôn am bethau moethus. Gwn eu bod yn galw hwn yn argyfwng costau byw, ond y gwir ydy ei fod yn argyfwng fforddio byw. Y drasiedi ydy fod pobl yn methu fforddio byw. O'i roi yn y termau yma, rydyn ni'n gweld yr argyfwng am beth ydy o mewn gwirionedd, sef bod cyfalaf yn cael ei flaenoriaethu dros fywydau. Mae yna ddigon o fwyd yma, mae yna ddigon o ynni, mae yna ddigon o dai, ond mae pobl yn marw ac yn dioddef oherwydd bod dogma'r farchnad rydd yn dweud bod gwerth y pethau yma yn fwy na gwerth bywydau pobl. Dyna'r gwir. A chyn hir, bydd hwn hefyd yn argyfwng i'r farchnad rydd wrth i bobl weld nad ydy'r drefn yn gweithio o'u plaid, a gwthio yn ôl.
Wrth drafod yr argyfwng yma a'r chwyddiant sydd ynghlwm iddi, yr un elfen sy'n ganolog i hyn oll ond sydd braidd byth yn cael sylw ydy'r costau o gael to uwch ein pennau. Rwy'n syrffedu ar orfod sôn am hyn yn y Siambr drosodd a thro, ond mae rhenti yng Nghymru wedi cynyddu yn fwy nag unrhyw ran arall o'r deyrnas anghyfartal yma, gyda'r bobl ar yr incwm isaf yng Nghaerdydd, er enghraifft, yn talu 35 y cant o'u hincwm ar rent yn unig, a'r rhent yn y ddinas hon wedi cynyddu 36 y cant mewn dwy flynedd. Mae chwarter tenantiaid preifat Cymru yn poeni eu bod nhw am golli eu tai yn y tri mis nesaf, a hyn ar ben y ffaith eu bod nhw wedi gweld cynnydd anferthol mewn troi allan di-fai yn barod.
Ac i'r rhai hynny sy'n cael eu troi allan neu'n chwilio am gartref, yna mae'r cyfleoedd i ganfod eiddo addas yn boenus o brin. Heddiw, fe lansiodd Sefydliad Bevan eu hadroddiad ar yr argyfwng tai, gan edrych ar y farchnad rent yng Nghymru dros yr haf diwethaf, a chanfod, credwch neu beidio, mai dim ond 60 eiddo oedd ar gael trwy Gymru benbaladr ar raddfa lwfans tai lleol, a bod yna saith awdurdod lleol heb yr un eiddo ar gael ar y raddfa honno. Gwyddom fod y niferoedd ar y rhestr aros am dai cymdeithasol wedi cynyddu o bron i hanner, a bellach mae'r rhestr honno tua 90,000. Yn wyneb hyn, mae'n rhaid gweithredu, a hynny ar frys.
Dwi'n falch fod cytundeb Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn edrych i gyflwyno Papur Gwyn a fydd yn cynnwys edrych ar gapio rhenti, ond mae'n rhaid i ni weithredu cyn hynny. Dyna pam fod yn rhaid i ni edrych ar rewi rhenti dros y tymor byr yma, a sicrhau bod yna bot o bres ar gael i ddigolledu'r sector tai cymdeithasol wrth iddyn nhw edrych i ddadgarboneiddio eu stoc. Byddai rhewi rhenti hefyd yn sicrhau nad ydy landlordiaid preifat yn medru elwa ar gefn trallod eraill yn ystod y cyfnod anodd yma. Dwi'n diolch i Carolyn Thomas am godi'r pwynt yma yn gynharach heddiw, ac yn gwybod ei bod hi'n siarad ar ran y mudiad Llafur yng Nghymru trwy wneud hynny.
Wedi'r cyfan, mae'n rhaid i ni gofio mai aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas—pobl ag anableddau, rhieni sengl ac eraill—sydd yn fwyaf tebygol o fynd i ddyledion ar eu rhenti oherwydd lefelau incwm isel. Mae dyledion o'r fath yn effeithio ar iechyd meddwl ac ar fagwraeth plant, felly mae gweithredu ar atal hyn am fod yn fuddsoddiad hefyd, gan arbed pres i adrannau eraill o'r Llywodraeth yn y pen draw. Felly, dwi'n galw arnoch chi yn y Llywodraeth i ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban a rhewi'r rhenti yma er mwyn galluogi’r mwyaf bregus i oroesi'r gaeaf anodd iawn yma. A dwi'n galw ar yr Aelodau ar feinciau cefn y Blaid Lafur i wrthod gwelliant eu Llywodraeth eu hunain, ac i gadw'n driw at y daliadau hynny a oedd wedi'ch cyflyru chi i roi eich enwau ymlaen fel gwleidyddion, a chefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.