Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 21 Medi 2022.
Yn sicr. Rwy'n cytuno ei fod yn gyfle pwysig inni fabwysiadu dull ysgol gyfan o weithredu ar fwyta'n iach. Rwy'n credu ei fod yn bendant yn un o'r cyfleoedd allweddol.
Y cyfle cyntaf sydd gennym i ymgorffori bwyd iach a maethlon yn rhan o ddiwylliant yr ysgol yw'r diweddariad i'r rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion, diweddariad yr ydym yn awyddus i'w gefnogi gyda sgwrs genedlaethol, gan olygu y bydd y rheoliadau'n cydweddu â'r cyngor gwyddonol diweddaraf, a bydd yn ein helpu i ail-fframio ein dull o gyflwyno addysg bwyd yn y ffordd y buom yn ei drafod heddiw. Ac rwyf eisiau sicrhau ein bod yn datblygu'r cynigion hynny yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru hefyd, oherwydd mae cyfleoedd a phwyntiau cyswllt gyda'r ddau faes polisi hynny. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu'r math o her a chefnogaeth i lunio bwydlenni ac ardystio cydymffurfiaeth â'r rheoliadau sy'n mynd i fod yn hanfodol er mwyn gallu symud ymlaen yn y maes hwn.
Ac rwy'n credu bod cyfle yma i ddatblygu meddylfryd o greu gwerth drwy gaffael bwyd yn hytrach nag edrych ar arbedion cost yn unig, er gwaethaf yr holl heriau eraill sy'n ein hwynebu. Ac felly, yn yr hydref, cyflwynir canllawiau cyfreithiol newydd, wedi'u datblygu drwy ein rhaglen economi sylfaenol, i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i brynu bwyd mwy lleol a chynaliadwy. Ac ochr yn ochr â hyn, mae Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), yr ydym wedi'i grybwyll eisoes yn y ddadl, yn gyfle gwirioneddol i gryfhau dulliau'r economi sylfaenol ym maes caffael bwyd a chodi ei broffil ar draws y system gyfan. Mae yna ddyletswydd caffael newydd, gyda gwerth cymdeithasol yn ganolog iddi, a fydd yn helpu i sicrhau canlyniadau cymdeithasol gyfrifol, a bydd gofynion data ychwanegol fel y gallwn weld yr hyn sy'n digwydd yn y system a helpu i wella'r ffordd yr ydym yn cofnodi data bwyd. Rydym eisoes yn cynllunio cymorth i greu dull mwy cydlynol a chyson o gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus, a fydd yn helpu cwmnïau bwyd i fod yn barod ar gyfer y sector cyhoeddus, ac mae hyn yn cynnwys gwaith partneriaeth i ddatblygu rhaglen fwyd newydd ar gyfer y sector cyhoeddus a strategaeth fwyd sector gyhoeddus i Gymru. Ac rydym yn dysgu o rai o'r arferion addawol ledled Cymru y cyfeiriwyd atynt yn y ddadl eisoes, gan gynnwys sir Gaerfyrddin a gwaith y cyngor yno i fyrhau cadwyni cyflenwi, lleihau allyriadau carbon, gwella cysylltiadau yn y cadwyni cyflenwi bwyd ac adeiladu capasiti cyflenwyr lleol hefyd. Rydym hefyd yn edrych ar fodelau llwyddiannus o ddarparu prydau ysgol mewn llefydd fel Malmö, yn Nwyrain Ayrshire, yn Hackney, sy'n pwysleisio pwysigrwydd addysg, uwchsgilio ac arweinyddiaeth gref yn y system hefyd. Ac yn hollbwysig, maent hefyd yn cynnwys plant yn y gwaith o flasu seigiau newydd, fel y soniodd Jenny Rathbone yn ei chyfraniad, a chynnig y math o amrywiaeth yn y bwydlenni, y natur dymhorol a'r tarddiad, a'r opsiynau, megis dewisiadau eraill yn seiliedig ar ddeiet planhigion, fel y galwodd Joyce Watson amdanynt yn ei chyfraniad hithau. Ac yn olaf, mae swyddogion yn ymgysylltu â datblygiadau caffael bwyd sector cyhoeddus Cymru, gan weithio'n agos â chyfanwerthwyr a chyflenwyr i archwilio cyfleoedd i newid i gyflenwad Cymreig.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy delerau ac amodau ein grant prydau ysgol am ddim i bawb, rydym eisoes yn dylanwadu ar arferion caffael a chyflenwi ar lawr gwlad. Mae hwnnw'n gam cychwynnol mewn taith hwy a fydd yn sicr yn galw am ffrynt unedig ar draws portffolios yn y Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach, a'n partneriaid hefyd. Ac rydym eisoes wedi dangos yr hyn y gellid ei gyflawni, rwy'n credu, pan fydd gwahanol rannau o'r system yn cydweithio fel hyn, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n ganolog iddo, mewn gwirionedd, yw'r mewnwelediad sylfaenol fod hyn yn fwy na dim ond buddsoddiad mewn platiaid o fwyd; mae hefyd yn fuddsoddiad yn llesiant cenedlaethau'r dyfodol ac yn iechyd ein heconomi hefyd. Diolch yn fawr.