Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 21 Medi 2022.
Mae ymchwil wedi dangos bod llawer o blant yn optio allan o gael eu cinio ysgol am ddim—mae llawer o waith wedi'i wneud ar hynny—a hynny oherwydd eu bod yn wynebu stigma gan eu cyfoedion. Ond mae'r polisi hwn, y polisi prydau ysgol am ddim i bawb, yn dileu'r stigma hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Rydym yn gwybod bod plant yn casáu teimlo'n wahanol, ac rwy'n credu y bydd rhoi prydau ysgol am ddim i bawb yn helpu i ddileu'r stigma hwnnw. Ond yr hyn rwyf am alw amdano yma yw sicrhau nad ydym yn cael gwared ar un stigma ac yn creu un arall yn ei le. Rwyf am ofyn yma am sicrwydd y bydd ysgolion yn darparu opsiynau deiet planhigion ar eu bwydlen. Mae twf sylweddol yn nifer y plant sydd bellach yn dewis deiet planhigion—neu ddeiet 'figan'—am resymau iechyd a moesegol. Rwy'n ofni y gallai methu cynnig o leiaf un opsiwn deiet planhigion ar y fwydlen olygu y bydd y plant sydd wedi cael eu rhyddhau o'r stigma o orfod gwneud cais am bryd ysgol am ddim yn dioddef stigma arall, lle na fydd y bwyd hwnnw'n rhywbeth y byddent yn ei ddewis, ac y byddant yn cael eu gwneud i deimlo'n wahanol eto.