Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jenny Rathbone am ddod a'r ddadl fer hon i Siambr y Senedd. Mae gwaith ac angerdd Jenny yn y maes hwn, ac ym maes ehangach polisi bwyd, yn amlwg yn gyfarwydd iawn i ni, ond hoffwn ddiolch iddi hefyd am ei chefnogaeth a'r cyngor y mae wedi'i ddarparu wrth inni gyflawni'r maes polisi allweddol hwn. Rwy'n credu bod yr angerdd a'r mewnwelediad a gyflwynwch i'r maes yn amlwg, os caf ddweud, yn eich araith agoriadol. Ac mae'n hanfodol, fel y mae'r Aelodau wedi'i ddweud, ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd y mae hyn yn eu creu wrth inni gyflwyno ein cynnig prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Yn yr un modd, fel y crybwyllwyd gan fwy nag un siaradwr, mae angen inni gydnabod a gweithio i oresgyn yr heriau a fydd ar ein llwybr wrth inni wneud hynny.
Ddoe, fe roddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar y cynnydd a wnaed ar ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, sef ymrwymiad allweddol yn ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Ac wrth wneud hynny, tynnais sylw at rai o'r heriau yr ydym eisoes wedi'u goresgyn yn ein penderfyniad i gefnogi cymaint o deuluoedd ag y gallwn mor gyflym â phosibl wrth i gostau byw barhau i godi. Fel y soniais ddoe, mae'r ffordd honno o weithio mewn partneriaeth, y dull tîm Cymru, wedi bod yn hanfodol wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim i 45,000 o blant ychwanegol mewn llai na dau dymor academaidd. Ac mae'n iawn ein bod yn blaenoriaethu'r ymdrechion hyn yn gyflym, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn o agweddau eraill ar yr ymyrraeth drawsnewidiol hon a fydd yn sicrhau y gallwn gael y canlyniadau gorau posibl i bob un o'n dysgwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau ledled Cymru. Er mai ein blaenoriaeth uniongyrchol oedd ymateb i'r cynnydd mewn costau byw, nod ein huchelgeisiau eraill yw lleihau anghydraddoldebau iechyd, ymgorffori caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, gwella llesiant a mynd i'r afael â chostau amgylcheddol cadwyni cyflenwi estynedig. Ac felly, mae prydau ysgol am ddim i bawb hefyd yn gatalydd ar gyfer hybu ein huchelgeisiau mewn perthynas â'r economi sylfaenol, partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus.
Ond mae yna heriau sy'n gysylltiedig â chyflawni ac ymrwymo i waith ar y raddfa hon. Yn gyntaf, os ydym am leihau anghydraddoldebau iechyd mewn gwirionedd, gan feithrin arferion bwyta'n iach yn fwy hirdymor, rhaid inni roi blaenoriaeth i ddarparu prydau iach a maethlon. Ac fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae angen i hyn fod yn rhan o ddull ysgol gyfan ehangach o weithredu addysg bwyd, gan gysylltu dysgwyr â tharddle eu bwyd, eu helpu i wneud dewisiadau iach, a phwysleisio arwyddocâd cymdeithasol a llawenydd rhannu pryd o fwyd gyda'n gilydd.
Mae'r pandemig, y sefyllfa yn Wcráin, yr argyfwng costau byw a'r cynnydd mewn biliau ynni yn creu heriau sylweddol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae heriau hefyd ynghylch y modd yr awn ati, ar y cyd, i groesawu dulliau caffael sydd o fudd i bawb, ac sy'n edrych ar amcanion ehangach eraill ochr yn ochr â phris, fel y nododd Peter Fox yn ei gyfraniad. Mae'n rhaid inni wneud gwell defnydd o'n gallu i lywio caffael cyhoeddus, a all greu buddion mewn ffyrdd eraill wedyn, gan leihau faint o arian sy'n cael ei golli o gymunedau a chost amgylcheddol cadwyni cyflenwi estynedig.
Ac mae'r hwb i'r galw yn sgil hyn yn arwain at gyfleoedd gwirioneddol i adleoli cadwyn fwyd sy'n fwy cynaliadwy, a rhoi mwy o fwyd o Gymru ar ein platiau cyhoeddus. Mae'r elfennau hyn yn greiddiol i'n huchelgeisiau ar gyfer prydau ysgol am ddim, gan gyflwyno'r posibilrwydd o newid sylweddol ym maes polisi ac yn ymarferol. Ond mae yna rai rhwystrau ar y llwybr, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r rheini: mae deall y farchnad yng Nghymru a chapasiti cyflenwyr i dyfu a chyflenwi bwyd lleol, cynaliadwy yn hanfodol; mae angen addysg ac uwchsgilio ar bob pwynt yn y gadwyn fwyd i hybu newidiadau i ddiwylliant ac ymarfer. [Torri ar draws.] Yn sicr. A ydych chi eisiau gwneud ymyriad?